Ysgol gynradd Gymraeg newydd ac adleoli ysgol gynradd Pilgwenlli
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymgynghori ar y cynnig canlynol:
- Sefydlu ysgol gynradd egin cyfrwng Cymraeg ar safle gwag hen Ysgol Fabanod Caerleon Lodge Hill o fis Medi 2021
- Adleoli Ysgol Gynradd Pillgwenlli o’r safle presennol i adeilad wedi ei adeiladu o’r newydd ar ddatblygiad Whiteheads, gan gynyddu lleoedd disgyblion prif ffrwd o 546 i 630 a lleoedd ei Chanolfan Adnoddau Dysgu (CAD) o 10 i 20 o Ionawr 2023
- Wedyn, trosglwyddo’r ysgol egin i leoliad parhaol ar safle presennol Ysgol Gynradd Pillgwenlli bresennol o fis Medi 2023
Penderfyniad
Aeth yr ymgynghoriad drwy'r cam rhybudd statudol heb unrhyw wrthwynebiadau, ac felly gwnaed penderfyniad terfynol gan Aelod Cabinet y cyngor dros Addysg a Sgiliau.
Penderfyniad terfynol
Mae'r Aelod Cabinet wedi gwneud y penderfyniad i weithredu'r cynnig i sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd ac adleoli Ysgol Gynradd Pilgwenlli.
Lawrlwytho’r Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)
Lawrlwytho’r Atodlen Benderfynu gysylltiedig (pdf)
Lawrlwytho’r Asesiad o Degwch ac Effaith ar Gydraddoldeb (pdf)
Lawrlwytho’r Llythyr Hysbysu Penderfyniad Terfynol (pdf)
Dyddiadau Gweithredu wedi'u Haddasu
Mae Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Addysg a Sgiliau wedi gwneud y penderfyniad i gymeradwyo oedi un flwyddyn galendr cyn gweithredu camau 2 a 3 y cynnig a gymeradwywyd yn flaenorol.
Er i'r ysgol newydd – Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli – agor yn ôl y bwriad ar safle dros dro yng Nghaerllion ym mis Medi 2021, oherwydd oedi wrth drosglwyddo'r tir yn Whiteheads o Lywodraeth Cymru i'r datblygwr enwebedig ac yna i'r Cyngor, nid yw gwaith adeiladu o ran yr ysgol newydd wedi dechrau eto. Mae rhestr ddiwygiedig o waith yn awgrymu oedi o un flwyddyn galendr mewn perthynas â phrosiect adeiladu’r ysgol. O ganlyniad, ni fydd yr ysgol newydd yn barod i'w meddiannu tan fis Ionawr 2024.
Bydd y dyddiadau gweithredu ar gyfer camau 2 a 3 fel a ganlyn:
- Adleoli Ysgol Gynradd Pilgwenlli o'i safle presennol i'r adeilad newydd ar ddatblygiad Whiteheads, ac wrth wneud hynny i gynyddu lleoedd yn yr ysgol ar gyfer disgyblion prif ffrwd o 546 i 630 ac yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu (CAD) o 10 i 20 lle o fis Ionawr 2024;
- Trosglwyddo egin Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli i leoliad parhaol ar safle ysgol gynradd bresennol Pilgwenlli o fis Medi 2024.
Lawrlwytho’r Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)
Lawrlwytho’r Atodlen Benderfynu gysylltiedig (pdf)
Lawrlwytho’r Asesiad o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (pdf)
Lawrlwytho’r Llythyr Hysbysu o’r Penderfyniad Terfynol (pdf)