Adeiladau rhestredig
Dewch o hyd i wybodaeth am adeiladau rhestredig yng Nghasnewydd yma.
Gofynnwch am gyngor cyn cychwyn ar unrhyw waith
Rhaid i chi wneud cais am ganiatâd, a derbyn caniatâd, cyn i unrhyw adeilad rhestredig gael ei ddymchwel, ei ymestyn neu ei newid mewn unrhyw ffordd sy’n newid ei gymeriad, y tu mewn neu’r tu allan iddo, gan gynnwys:
- newid ffenestri neu ddrysau
- gosod dysglau lloerenni a larymau lladron
- newid waliau mewnol neu rannu ystafelloedd
- newid i nodweddion fel llefydd tân a chornisiau
Mae gwneud gwaith heb awdurdod ar adeilad rhestredig yn drosedd a all arwain at ddirwy neu garchar ac efallai y bydd angen dychwelyd yr adeilad i’w gyflwr blaenorol
Mae canllawiau ar gael gan Cadw gan gynnwys:
- Asesiadau Effaith ar Dreftadaeth (HIA) – yn esbonio’r egwyddorion cyffredinol i’w hystyried wrth baratoi eich HIA i’w gyflwyno wrth wneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig a/neu Ardal Gadwraeth
- Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol (HER)– yn rhoi gwybodaeth fanwl am yr amgylchedd hanesyddol, wedi eu cynnal a’u diweddaru er budd y cyhoedd.Mae’r canllaw hwn yn egluro sut dylid defnyddio’r HER a gall fod yn berthnasol i unigolion a chyrff cyhoeddus eraill.
- Rheoli newid i adeiladau rhestredig – yn esbonio’r egwyddorion cyffredinol i’w hystyried wrth newid neu wneud cais am ganiatâd Adeilad Rhestredig.
- Rheoli newidiadau i barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig – yn esbonio’r egwyddorion cyffredinol i’w dilyn wrth ystyried newidiadau ac yn esbonio rôl perchnogion cyfrifol ar barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig.
- Rheoli ardaloedd cadwraeth – yn esbonio’r cyd-destun polisi a chyfrifoldebau awdurdodau lleol o ran dynodi a rheoli ardaloedd cadwraeth.
- Rheoli cymeriad hanesyddol – yn esbonio pam ei bod yn bwysig adnabod cymeriad hanesyddol a’i ddefnyddio wrth gynllunio gwaith i greu a chynnal lle nodedig ar gyfer y dyfodol.
- Rheoli adeiladau rhestredig sydd mewn perygl – yn esbonio pam bod yr adeiladau hyn yn bwysig ac yn amlinellu pwysigrwydd rheoli’r berthynas rhwng defnydd, perchnogaeth a chyflwr adeilad er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd am gyngor cyn cychwyn ar unrhyw waith.
Gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig
Gan cadw y mae’r penderfyniad terfynol fel arfer a gwneir y penderfyniad ryw wyth wythnos wedi iddynt dderbyn y cais.
Os gwrthodir caniatâd mae gennych chwe mis i apelio.
Gwneud cais i restru
Mae gan cadw ganllaw yn esbonio diben a manteision rhestru, y cefndir deddfwriaethol, sut i wneud cais i restru, tystiolaeth gefnogol a’r camau nesaf.
Adeiladau rhestredig mewn perygl
Mae’r cyngor yn cadw rhestr o adeiladau sydd mewn perygl am eu bod yn cael eu hesgeuluso neu’n dirywio.
Gweld y Adeiladau Casnewydd Mewn Perygl (pdf).
Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb ar gyfer yr adeilad rhestredig mewn perygl 11 Kensington Grove
Cysylltu
E-bostiwch planning@newport.gov.uk neu cysylltwch â Chygor Dinas Casnewydd a gofyn am y swyddog cadwraeth.