Y broses ymgeisio

 

 

Ymgeisio am  ganiatâd cynllunio 

Lawrlwythwch ffurflenni PDF trwy ddilyn y ddolen hon, dewis ‘Cyngor Dinas Casnewydd’ a dilyn y cyfarwyddiadau ar-lein. 

Lawrlwythwch ganllawiau ar gyfer cyflwyno ceisiadau gan ddeiliad tŷ (pdf)

Y broses ymgeisio – beth fydd yn digwydd nesaf

Cam 1 – derbyn a chofrestru

Pan dderbynnir cais cynllunio, caiff ei wirio i wneud yn siwr ei fod yn ddilys. 

Os yw’r cais yn ddilys, caiff ei gofrestru a’i gofnodi ar y system gynllunio. 

Os yw’r cais yn anghyflawn, rhoddir gwybod i chi o fewn pum niwrnod gwaith y rhesymau pam mae’r cais yn annilys, enw’r swyddog achos a’ch hawl i apelio, os yw’n berthnasol. 

Fel arfer, rhoddir 28 niwrnod i chi ddarparu’r wybodaeth sy’n ofynnol i ddilysu’r cais.   

Bydd llythyr cydnabod yn cael ei anfon a fydd yn enwi’r swyddog cynllunio sy’n ymdrin â’r cais, eich rhif cais, a’r dyddiad erbyn pryd y dylid gwneud penderfyniad.

Gweld y rhestr wythnosol o geisiadau cynllunio cofrestredig

Cam 2 – ymgynghori

Mae’r cyfnod ymgynghori’n caniatáu i unrhyw un sydd â buddiant mewn cais cynllunio wneud sylwadau, ac fel arfer bydd yn dechrau o fewn wythnos o gofrestru cais ac yn parhau am 21 diwrnod. Wedi hynny, gellir penderfynu ar y cais.

Bydd unrhyw sylwadau a dderbynnir ar ôl 21 diwrnod yn cael eu hystyried os nad oes penderfyniad wedi cael ei wneud ar y cais neu, yn achos cais a ystyrir gan Bwyllgor Cynllunio, dim ond cynrychiolaethau a dderbynnir erbyn canol dydd ar y dydd Llun yn union cyn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio ar ddydd Mercher a fydd yn cael eu hystyried.

Pan wneir diwygiadau i gyflwyniad neu pan gyflwynir gwybodaeth ychwanegol, bydd ailymgynghoriad yn cael ei gynnal am gyfnod o 14 diwrnod. 

Gwneud sylwadau ar gais cynllunio

Cam 3 – ymweliad safle

Bydd y swyddog cynllunio’n ymweld â’r safle ac yn asesu effaith y cais.

Os gwrthodir cais, efallai y gofynnir i’r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth ychwanegol i helpu i esbonio’r cynnig. 

Bydd y swyddog cynllunio’n paratoi adroddiad a fydd yn ystyried unrhyw sylwadau a fynegwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, sef 4 i 8 wythnos o ddyddiad cyflwyno’r cais fel arfer. 

Cam 4 – os yw’ch cynnig yn annerbyniol

Pe byddai newidiadau cymharol fach yn gwneud y cynnig yn dderbyniol, byddwn yn awgrymu hyn i chi.

Os byddwch yn diwygio’r cynnig, mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn am fwy o amser i wneud penderfyniad neu efallai y gallwn ychwanegu pedair wythnos at yr amserlen benderfynu yn unol â’r rheoliadau presennol. 

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ailhysbysu cymdogion ac ymgyngoreion eraill hefyd.

O ran ceisiadau mawr, mae’n debygol y bydd ffi’n gysylltiedig â diwygiadau o’r fath.

Ni fydd proses o barhau i wneud diwygiadau i gais, sy’n oedi’r broses benderfynu, yn cael ei chefnogi os ydym yn fodlon bod gennym ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad.

Fel arfer, ni chytunir gohirio’r cais oni bai y credir y gallai’r ymgeisydd ei ddiwygio’n foddhaol.

Ni fyddwn yn cychwyn trafodaethau fel arfer:

  • Os yw’r cynnig yn annerbyniol mewn egwyddor
  • Os byddai angen dyluniad cwbl newydd arnoch i oresgyn gwrthwynebiadau
  • Os ydych wedi dewis peidio â dilyn ein cyngor cyn-ymgeisio
  • Os na ofynnoch i ni am gyngor cyn-ymgeisio
  • Os nad yw’r datblygiad yn cydymffurfio â’n polisïau cynllunio

Bydd y terfyn amser ar gyfer derbyn gwybodaeth ychwanegol neu ddiwygiadau naill ai’n cael ei gadarnhau gan y swyddog achos neu’n 10 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a drefnwyd ar gyfer y pwyllgor neu bum niwrnod gwaith cyn y dyddiad y daw’r cais i ben neu’r dyddiad a drefnwyd ar gyfer penderfyniad dirprwyedig, p’un bynnag a ddaw gyntaf. 

Cam 5 – gwneud penderfyniad

Cytundebau Cyfreithiol Adran 106

Mae’n bosibl y gofynnir i chi lunio cytundeb cyfreithiol adran 106/rhwymedigaeth gynllunio i sicrhau taliadau seilwaith neu waith arall sy’n ofynnol i liniaru niwed a amlygwyd yn sgil cynnig. 

Darllenwch y Canllawiau Cynllunio Atodol ar rwymedigaethau cynllunio (pdf) 

Pan fydd yr awdurdod wedi derbyn eich cytundeb ysgrifenedig â Phenawdau’r Telerau ar gyfer adran 106 ac mae penderfyniad wedi cael ei wneud ar sail cytundeb o’r fath, ni fydd yr awdurdod cynllunio lleol yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau sy’n ceisio newid Penawdau’r Telerau o ran gostwng ffigurau cytunedig neu newid gwaith cytunedig o ganlyniad i resymau hyfywedd, er enghraifft, cyn i’r Hysbysiad o Benderfyniad terfynol gael ei gyhoeddi.  

Mae’n bwysig eich bod chi’n gwirio Penawdau’r Telerau a gewch yn drylwyr. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r ffigurau neu’r gofynion, neu’r cyfiawnhad iddynt, rhaid i chi godi’r rhain a’ch bodloni eich hun bod y cais yn rhesymol, yn berthnasol ac yn angenrheidiol, cyn cytuno’n ysgrifenedig â’r Telerau 

Mae’n rhaid i unrhyw drafodaethau gael eu cynnal cyn i chi gytuno â Phenawdau’r Telerau, ac os ceisiwch drafod neu aildrafod Penawdau Telerau adran 106 ar ôl cytuno arnynt yn ysgrifenedig a derbyn penderfyniad (ond nid hysbysiad o benderfyniad), mae’n rhaid i’ch cais gael ei dynnu’n ôl er mwyn i’r aildrafod ddigwydd. 

Gallai methu llofnodi cytundeb adran 106 o fewn 3 mis o wneud unrhyw benderfyniad arwain at wrthod eich cais. 

Fel arall, gallech symud ymlaen i gwblhau’r adran 106, derbyn Hysbysiad o Benderfyniad ac yna gwneud cyflwyniad newydd i’r awdurdod a fydd yn galluogi trafod telerau a newidiwyd. 

Mae ffi cais cynllunio newydd yn debygol o fod yn gysylltiedig ag unrhyw ailgyflwyniad. 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn deall bod amodau economaidd sy’n newid yn gwneud safleoedd yn anymarferol yn economaidd mewn rhai achosion, gan arwain at ddim datblygiad, dim adfywio neu ddim buddion cymunedol, o bosibl. 

Os byddwch yn cytuno ar Benawdau’r Telerau ac mae penderfyniad wedi cael ei wneud gyda chytundeb adran 106 yn seiliedig ar y telerau hyn a chanfyddir bod y datblygiad yn anymarferol ac ni all symud ymlaen, gallech ddymuno ceisio aildrafod rhwymedigaethau cynllunio gyda’r cyngor er mwyn helpu i ailgychwyn datblygiad sydd wedi pallu.

Gall y cyngor, yn wirfoddol, gytuno i drafod diwygiadau i gytundebau adran 106, ond bydd angen talu ffi ar gyfer aildrafod cytundebau adran 106 yn yr un modd â chyngor cyn-ymgeisio. 

Cyfeiriwch at Atodiad 1 nodiadau canllaw’r cyngor ar gyngor cyn-ymgeisio (pdf) i gael mwy o wybodaeth.  

Penderfynir ar y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio gan swyddogion cynllunio o dan awdurdod dirprwyedig.

Fel arfer, penderfynir ar geisiadau mawr neu ddadleuol gan y Pwyllgor Cynllunio. 

Cam 6 – hysbysiadau o benderfyniad

Mae’r is-adran gynllunio’n ceisio cyhoeddi hysbysiadau o benderfyniad o fewn 5 niwrnod gwaith o’r penderfyniad.

Os gwrthodir y cais neu os na chyhoeddir tystysgrif, bydd rhesymau’n cael eu rhoi.

Os caniateir y cais, mae’n bosibl y bydd amodau’n gysylltiedig y bydd rhaid cydymffurfio â nhw.

Os nad ydych yn fodlon ar y penderfyniad neu unrhyw amodau, mae proses apelio ar gael.