Cyngor rheoliadau adeiladu
Mae rheoliadau adeiladu yn safonau cenedlaethol sydd ar waith ar gyfer adeiladau o bob math a newidiadau o bob math i adeiladau ac mae pob agwedd ar waith adeiladu’n berthnasol iddynt.
Canllawiau ar-lein
Gwaith trydan
Mae Rhan P y rheoliadau adeiladu’n ymwneud â gwaith trydan.
Dylai unrhyw waith trydan sy’n cael ei wneud gan bobl sydd heb eu cofrestru gael ei wirio a chael tystysgrif. Perchennog yr eiddo sy’n gyfrifol am sicrhau bod gwaith trydan yn cydymffurfio gyda’r rheolau.
Dod o hyd i drydanwr cofrestredig
Pibau carthffos a draeniau
Os ydych yn bwriadu adeiladu dros garthffos, neu ei chau, rhaid i chi hysbysu Dŵr Cymru. Darllenwch proses adeiladu dros garthffos Dŵr Cymru
Cymeradwyo rheoliadau adeiladu
Mae angen cael cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar waith sy’n cynnwys:
- estyniadau cartref, e.e. cegin, ystafell wely, lolfa
- trosi gofod yr atig
- Newidiadau strwythurol mewnol, fel dymchwel wal neu raniad sy’n dal pwysau, gosod bath neu gawod a thoiledau pan fo angen plymio gwastraff a draenio newydd
- gosod dyfeisiau gwresogi newydd, simneiau neu ffliwiau newydd
- tanategu seiliau
- newid agoriadau ar gyfer ffenestri mewn to neu wal
- amnewid gorchudd to (dros 25%)
- insiwleiddio ceudodau
- codi adeiladau newydd sydd heb eu heithrio
- gwelliannau mynediad i bobl anabl
Mae rhagor o wybodaeth yn y Porthol Cynllunio Rheoliadau Adeiladu.
Gwaith wedi ei eithrio
Mae peth gwaith adeiladu wedi ei eithrio o’r rheoliadau adeiladu, megis ystafelloedd haul, cynteddau, llwybrau â gorchudd ac adeiladau parcio ceir (sy’n agored ar 2 ochr o leiaf), garejys sengl ar wahân, adeiladau unllawr bach ar wahân sydd yn llai ma 30m2 a heb gyfleusterau gwely ynddynt ac adeiladau ar wahân ag arwynebedd y llawr yn 15m2 neu lai a heb gyfleusterau cysgu ynddynt, e.e. sied gardd.
Cysylltu
E-bostiwch building.control@newport.gov.uk neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm rheoli adeiladu.
Cyngor Dinas Casnewydd, Canolfan Ddinesig, Casnewydd, NP20 4UR