Strwythurau peryglus

Mae gwasanaeth rheoli adeiladu’r cyngor yn gweithredu gwasanaeth brys 24 awr 365 diwrnod i arolygu adeiladau peryglus, wedi niwed gan dân neu wyntoedd er enghraifft.

Gweithredir yn syth os bydd angen diogelu’r cyhoedd rhag strwythur peryglus.

I'n hysbysu am strwythur peryglus ffoniwch y cyngor ar  (01633) 656656

 Hysbysiad dymchwel

Mae’r gwasanaeth rheoli adeiladu yn monitro gwaith dymchwel er diogelwch ac iechyd y cyhoedd.

Mae angen hysbysiad dymchwel cyn i unrhyw waith dymchwel ddechrau ar unrhyw adeilad sy’n fwy na 50 metr ciwbig (1750 troedfedd giwbig), tua maint garej sengl yn fras.

Rhaid hysbysu’r cyngor yn ysgrifenedig o’r bwriad i ddymchwel adeilad a rhaid i’r gwaith beidio â dechrau tan i chi dderbyn hysbysiad dymchwel gan y cyngor.

Y Broses Hysbysu

Ysgrifennwch atom gyda manylion eich bwriad i ddymchwel, gan gynnwys cynllun o’r safle, yn dangos ffiniau a maint y gwaith dymchwel.

Nodwch unrhyw fesurau ataliol y byddwch yn eu gwaredu i amddiffyn adeiladau cyffiniol neu gyfagos ac unrhyw fesurau diogelu cyhoeddus eraill.

Dylid anfon hysbysiad hefyd i breswylwyr adeiladau cyffiniol neu gyfagos, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a chyflenwyr nwy, trydan a dŵr.

Nod y cyngor yw cyhoeddi hysbysiadau dymchwel o fewn 5 niwrnod gwaith ac ni ddylid dechrau ar y gwaith dymchwel tan i chi dderbyn yr hysbysiad.

Bydd yr hysbysiad yn cynnwys amodau, sydd â’r nod o sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd a bydd copïau’n cael eu hanfon at gyflenwyr nwy, trydan a dŵr, i feddianwyr adeiladau cyffiniol a’r gwasanaethau iechyd yr amgylchedd a thân.

Caniatâd

Mae angen caniatâd fel arfer i ddymchwel adeiladau sy’n fwy na 50 metr ciwbig mewn maint. 

Hysbysiad o ddymchwel arfsethedig

Darllenwch am ddymchwel ar y Porthol Cynllunio

Cysylltwch a Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y tîm rheoli adeiladu neu e-bostiwch  [email protected]