St Julian's Inn

View-from-St-Julian's-Inn

Mae gan y dafarn glan afon gyfeillgar hon ddigon o le eistedd awyr agored, lle gallwch fwynhau’r golygfeydd ar draws yr afon a’r caeau tuag at dref Rufeinig Caerllion, yn ogystal â bar croesawgar mawr.

Mae’r bwyd sy’n cael ei baratoi’n ffres gan ddefnyddio cynhwysion lleol, a’r amrywiaeth o gwrw ardderchog o’r gasgen, yn golygu ei bod hi’n boblogaidd ymhlith pobl leol.

Mae digon i gadw cwsmeriaid yn brysur, gan gynnwys ale fowlio, bwrdd pŵl, boules ac ystafell ddigwyddiadau ar wahân ar gyfer cyfarfodydd, partïon ac achlysuron teuluol.

Tafarn draddodiadol â lletygarwch Cymreig go iawn.

 

Gwobrau: Ar ôl ennill ‘Tafarn y Flwyddyn Gwent’ a ‘Thafarn y Flwyddyn De a Chanolbarth Cymru’ yn flaenorol, mae St Julian hefyd wedi cael ei chynnwys yn CAMRA National Good Beer Guide bob blwyddyn er 1992.

 

Cyfleusterau

Llysieuol

Trwyddedig ar gyfer alcohol

Hygyrch i gadeiriau olwyn

Bwydlen i blant

Derbynnir cardiau debyd/credyd

Croeso i gŵn (ar dennyn)

Sky Sports a BT Sports ar y teledu

WiFi cyflym iawn rhad ac am ddim

Maes parcio mawr

Gwasanaeth bws lleol cyson

 

Gwasanaeth bwyd: Dydd Llun – dydd Sadwrn, 11.30am-2.45pm a 6pm-8.45pm

 

St Julian’s Inn

Caerleon Road

Casnewydd

NP18 1QA

Ffôn: +44(0)1633 243548

Gwefan: www.stjulian.co.uk

E-bost: [email protected]