Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (Rheoli Cŵn) 2022

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi rhoi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) ar waith ar gyfer parciau a mannau agored.

Mae'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r holl Fannau Cyhoeddus yn Ninas a Sir Casnewydd a diben y gorchymyn fydd gorfodi perchnogaeth gyfrifol ar gŵn.

Daw’r Gorchymyn i rym ar 21 Tachwedd 2022 a bydd yn parhau mewn grym am 3 blynedd o’r dyddiad hwn, oni bai y caiff ei ymestyn gan orchmynion pellach a wneir dan bwerau statudol y Cyngor.

Mesurau’r GDMC

Rhaid i berchnogion:

  • Gadw eu ci dan reolaeth drwy’r amser.  
  • Codi baw eu ci ar unwaith a’i roi yn y biniau sbwriel a ddarperir.
  • Cario bagiau baw cŵn drwy’r amser.

 

  • Ni chaniateir i gŵn fynd ar gaeau chwaraeon na chaeau chwarae, mewn ardaloedd chwarae nac ar unrhyw nodwedd ddŵr ym mharciau'r ddinas.
  • Os bydd un o swyddogion y Cyngor neu'r Heddlu yn gofyn i chi roi eich ci ar dennyn, dylech wneud hynny ar unwaith.

Gall methu â dilyn y rheolau hyn olygu cael hysbysiad cosb benodedig o £100.

Gallwch lawrlwytho’r GDMC (pdf)

Gweler y lleoliadau sy’n dod dan y GDMC (pdf)

Gallwch roi gwybod am achosion o drosedd, anrhefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i Heddlu Gwent ar 101 neu drwy e-bostio [email protected]

Neu e-bostiwch Gyngor Dinas Casnewydd yn [email protected]