Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Maesglas

Mae’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) ar gyfer rhan o Faesglas - rhan o ward etholiadol Gaer a gyflwynwyd ym mis Awst 2018 wedi’i adnewyddu ac mae’n weithredol o 11 Hydref 2023 am dair blynedd.


 

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gweithredu Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMAC) ar gyfer rhan o Faesglas - rhan o ward etholiadol Gaer - gyda chefnogaeth Cartrefi Dinas Casnewydd a Heddlu Gwent.

Mae’r GDMAC yn galluogi’r Cyngor i gau’r llwybr y tu ôl i siopau Maesglas ar Ffordd Caerdydd ac yn cyfyngu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol penodol mewn rhai mannau cyhoeddus ym Maesglas er mwyn mynd i’r afael â'r mathau o ymddygiad sy'n peri gofid i bobl leol.

Mesurau GDMAC

  1. Gwrthod rhoi’r gorau i yfed alcohol neu roi cynwysyddion alcohol i swyddog ag awdurdod pan fydd yn gofyn
  2. Ymddwyn mewn ffordd sydd wedi neu sy’n debygol o achosi aflonyddwch, ofn neu anghysur i aelod o’r cyhoedd a gwrthod gadael yr ardal
  3. Gwerthu, defnyddio neu feddu ar sylweddau meddwol - heb gynnwys tybaco a chynnyrch neu feddyginiaethau a gafwyd ar bresgripsiwn. Os oes rhywun yn cael ei ddal yn gwneud hyn, gall swyddog heddlu fynd â’r sylwedd oddi arno.
  4. Defnyddio llwybr sydd wedi’i gau gan gatiau oni bai bod angen iddynt ddefnyddio’r llwybr hwnnw i fynd at gefn y siopau yr effeithir arnynt.

Mae unrhyw berson sy’n methu, heb esgus digonol, â chydymffurfio a’r GDMAC yn cyflawni trosedd a gallai, o gael ei euogfarnu, gael dirwy o hyd at £1,000 (hyd at £500 yn achos y cyfyngiad ar alcohol).

Bydd yr heddlu a swyddogion y Cyngor yn rhoi cyfle i dramgwyddwyr dalu cosb benodedig o £100 i gychwyn i osgoi cael eu herlyn. 

Lawrlwythwch Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Maesglas (pdf)

Lawrlwythwch y map yn dangos ffiniau’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (pdf)

Lawrlwythwch y map yn dangos y llwybr sydd wedi’i gau gan y gatiau (pdf)

Rhoi gwybod

Gallwch roi gwybod am achosion o drosedd, anrhefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i Heddlu Gwent ar 101 neu drwy e-bostio [email protected]

Fel arall, e-bostiwch Gyngor Dinas Casnewydd yn [email protected]

TRA90864 13/9/2018