GDMC Canol y Ddinas

Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) Canol Dinas Casnewydd a gyflwynwyd ym mis Awst 2018 wedi dod i ben.

Mae GDMC 2018 bellach wedi cael ei ddisodli gan Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Canol Dinas Casnewydd 2021, sy'n weithredol o 13 Rhagfyr 2021.

Mae'r GDMC yn caniatáu i'r heddlu a'r Cyngor roi stop ar ymddygiad sy'n cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd pobl sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â chanol y ddinas.

Lawrlwythwch y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (pdf) 

Gweld ffin ddaearyddol y GDMC (pdf) 

Mesurau GDMC  

  1. Gwrthod rhoi’r gorau i yfed alcohol neu roi cynwysyddion alcohol i swyddog ag awdurdod pan fydd yn gofyn
  2. Ymgymryd â masnachu ar y stryd gan gynnwys pedlera, casglu ar gyfer elusennau neu dowtio am wasanaethau, tanysgrifiadau neu roddion oni bai eich bod wedi'ch awdurdodi i wneud hynny.
  3. Cardota o fewn 10 metr i beiriant arian parod neu beiriant talu neu gardota mewn modd sy'n ymosodol neu'n fygythiol neu'n debygol o achosi i rywun deimlo aflonyddwch, braw neu drallod.
  4. Ymddwyn mewn ffordd sydd wedi neu sy’n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i aelod o’r cyhoedd a gwrthod gadael yr ardal
  5. Gwerthu, defnyddio neu feddu ar sylweddau meddwol - heb gynnwys nwyddau tybaco neu feddyginiaethau a gafwyd ar bresgripsiwn. Os oes rhywun yn cael ei ddal yn gwneud hyn, gall swyddog heddlu fynd â’r sylweddau oddi arno.
  6. Bod yng ngofal ci nad yw ar dennyn (heb fod yn hwy na 1.5 metr o hyd) 
  7. Gwrthod dod oddi ar feic, sgwter, E-sgwter, E-feic, sglefrfwrdd neu fwrdd hofran, pan fo'n ofynnol iddo wneud hynny gan swyddog awdurdodedig.

Mae unrhyw berson sy’n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio a’r GDMC yn cyflawni trosedd a gallai, o gael ei euogfarnu, gael dirwy o hyd at £1,000 (hyd at £500 yn achos y cyfyngiad ar alcohol).

Bydd yr heddlu a swyddogion y Cyngor yn rhoi cyfle i dramgwyddwyr dalu cosb benodedig o £100 i gychwyn i osgoi cael eu herlyn.  

Mae'n anghyfreithlon o dan gyfreithiau eraill i: 

  • Ollwng sbwriel
  • Beicio mewn rhannau o ganol y ddinas i gerddwyr
  • Gadael baw ci ar ôl