Sbardun cymunedol

Mae sbardunau cymunedol yn ei gwneud yn haws i ddioddefwyr a chymunedau roi stop ar ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Yng Ngwent daeth y sbardun cymunedol i rym ar 20 Hydref 2014, fel rhan o’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona.

Gall dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol mynych wneud cais am adolygiad o’r camau sydd wedi’u cymryd os ydynt yn teimlo nad yw’r broblem wedi’i datrys.

Y sbardun cymunedol yw’r dewis olaf os yw dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn teimlo nad oes digon wedi’i wneud i ddelio ag achos.

Lawrlwythwch ragor o wybodaeth am y sbardun cymunedol (pdf) 

Gwnewch gais i weithredu’r sbardun cymunedol (pdf)

Ceisiadau sbardunau cymunedol

2018 / 2019

Cafwyd un cais ac fe’i clywyd gan banel adolygu a argymhellodd i’r awdurdod perthnasol barhau i fonitro effaith y strategaeth gyfredol a’i diwygio fel y bo'n briodol.

Y casgliad oedd bod yr awdurdod perthnasol wedi ymateb yn briodol i’r cwynion.

Argymhellodd y panel hefyd i’r cyngor ystyried gwella goleuadau stryd mewn ardal benodol.

2017 / 2018

Derbyniwyd un cais ac roedd yn llwyddiannus. Teimlai’r panel adolygu fod yr awdurdod perthnasol wedi gweithredu’n rhesymol ac yn deg, ac ni wnaed unrhyw argymhellion pellach.

Mae cymorth yn parhau i gael ei roi i’r ymgeisydd. 

2016 / 2017

Cafwyd dau gais. Nid oedd yr un yn llwyddiannus gan fod ymchwiliadau'r heddlu yn mynd rhagddynt ar y pryd.

2015 / 2016 

Cafwyd un cais a gafodd wrandawiad gan banel adolygu a wnaeth ddau argymhelliad i’r awdurdod perthnasol am ganiatâd cynllunio i’w ystyried ymhellach, a rhoddwyd adborth i’r ymgeisydd.  

2014 / 2015

Cafwyd a gwrandawyd ar un cais gan banel adolygu a arweiniodd at saith argymhelliad gan gynnwys parhau â phatrolau'r heddlu yn yr ardal a rhoi cyngor i'r ymgeisydd ar y defnydd priodol o CCTV preifat. 

Cysylltu 

Anfonwch e-bost i [email protected], ffoniwch (01633) 851764 neu cysylltwch â rheolwr ymddygiad gwrthgymdeithasol Cyngor Dinas Caerdydd.

 TRA91094 19/9/2018