Datrys Anghytundebau

Mae’r system ADY a'r broses CDU newydd yn cynnwys dyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau lleol i ystyried barn, dymuniadau a theimladau'r plentyn, y rhieni neu'r person ifanc, felly ei bwriad yw helpu i oresgyn llawer o anghytundebau.

Fodd bynnag, o bryd i'w gilydd, gall anghytundebau godi ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) neu Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (ADY) eich plentyn. Cyn belled ag y bo modd dylid osgoi neu ddatrys yr anghytundebau hyn ar y cyfle cyntaf.

Yn gyntaf, trafodwch eich pryderon gyda’r ysgol neu leoliad addysgol eich plentyn. 

Camau i rieni eu hystyried:

  • Cyfyngwch eich pryderon neu bwynt anghytuno i un neu ddau bwynt clir.
  • Gwnewch restr o'r prif bwyntiau yr hoffech iddynt gael eu hystyried
  • Gwnewch restr o unrhyw gwestiynau sydd gennych ac yr hoffech gael ymatebion amdanynt cyn mynychu cyfarfod.

Cydnabyddir y gall anghytuno godi weithiau ynglŷn â phenderfyniadau. 

Yn unol â Chod ADY 2021, mae'n bwysig bod y rhain yn cael eu datrys ar y cyfle cyntaf. Os nad yw plentyn, ei riant/gofalwr neu'r person ifanc yn gytûn â phenderfyniadau ysgol ynghylch ADY a DDdY, gallant ofyn i'r ALl ail-ystyried y mater. 

Yn dilyn y broses ail-ystyried hon, bydd yr ALl yn gwneud penderfyniad. Mae ganddo 7 wythnos i benderfynu ac os cytunir bod ADY sydd angen DDdY, bydd CDU yn cael ei gytuno. 

Mae'r amserlen hon yn berthnasol pan nad oes amgylchiadau eithriadol a allai arwain at oedi.

Gellir cysylltu â'r Awdurdod Lleol ar unrhyw adeg yn y broses ADY i drafod unrhyw faterion neu bryderon sydd gennych gyda'r broses CDU neu bryderon sydd gennych am benderfyniadau mae'r ALl wedi eu gwneud ynghylch addysg eich plentyn. 

Fodd bynnag, efallai bydd adegau pan fyddwch yn anghytuno â'r penderfyniad a wnaed. Mae'n bwysig codi eich pryderon fel bod trafodaethau cynnar yn gallu digwydd, neu gyfarfod wedi eu trefnu.

Yn y lle cyntaf, cysylltwch â'ch swyddog enwebedig a fydd yn hapus i'ch helpu (a enwir ar y llythyrau rydych wedi'u derbyn gennym).

Gellir datrys y rhan fwyaf o anghytuno trwy siarad â'r parti arall.

Fodd bynnag, os nad yw eich pryderon wedi'u datrys neu os yw cyfathrebu wedi chwalu, efallai yr hoffech ystyried defnyddio Datrys Anghytundebau.

Mae'r trefniadau hyn ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r gwasanaeth yno i helpu i ddatrys anghytuno ynglŷn â:

  • sut mae darparwyr y BC, ysgolion ac AB yn gwneud penderfyniadau ADY
  • y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i blentyn neu berson ifanc 
  • cynnwys y CDUau  
  • penderfyniadau ADY awdurdodau lleol ac ailystyried fel dewis arall neu ochr yn ochr ag apeliadau'r Tribiwnlys

Nodau datrys anghytundeb yw:

  • helpu i ddod â'r holl bartïon perthnasol at ei gilydd
  • cefnogi anghenion y plentyn a'r person ifanc
  • helpu i ddatrys anghytundebau yn gynnar ac yn anffurfiol drwy drafod a chytuno
  • trafod yr ystod lawn o opsiynau
  • sicrhau bod cyn lleied â phosib o darfu ar addysg y plentyn neu'r person ifanc

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gael gwasanaeth eirioli annibynnol i gefnogi rhieni a phlant, pobl ifanc gyda'r system ADY.

Mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol am ddim ar gyfer rhieni plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Mae SNAP Cymru yn hyrwyddo gwaith partneriaeth effeithiol ac yn cydnabod pwysigrwydd cyfranogiad gweithredol rhieni a phobl ifanc mewn penderfyniadau ynghylch darpariaeth ddysgu ychwanegol.

Mae'r gwasanaeth yn rhoi cyfleoedd i siarad drwy unrhyw bryderon sydd gennych ac i'ch helpu i baratoi ar gyfer trafodaethau yn ogystal â mynychu cyfarfodydd ac ymweld ag ysgolion gyda chi os dymunwch.

Tribiwnlys Addysg Cymru

Os ydych yn dal yn anhapus gallwch apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru annibynnol.

Mae Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ('TAAAC') wedi'i ailenwi'n Dribiwnlys Addysg Cymru ('y Tribiwnlys').

Os yw rhieni/gofalwyr neu'r person ifanc yn anhapus â phenderfyniadau ynghylch CDU, gallant apelio i'r Tribiwnlys Addysg o fewn amserlen benodol. 

Bydd hefyd yn clywed honiadau gwahaniaethu ar sail anabledd mewn perthynas ag ysgolion. 

Ymhlith y materion y gellir apelio yn eu cylch mae penderfyniad ynglŷn ag a oes gan blentyn/person ifanc ADY ai peidio, p'un a oes angen CDU arnynt, cynnwys y cynllun, p’un a yw’r ddarpariaeth yn Gymraeg, a'r lleoliad.

Gweler Cod ADY 2021 am restr lawn.