Diffiniadau ADY

Anghenion Dysgu Ychwanegol” neu “ADY”

  • Mae gan unigolyn anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster neu anabledd dysgu (boed yr anhawster dysgu neu'r anabledd yn codi o gyflwr meddygol neu fel arall) sy'n galw am ddarpariaeth dysgu ychwanegol
  • Mae gan blentyn o oedran ysgol gorfodol neu berson dros yr oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd os yw:
    • ag anhawster sylweddol mwy wrth ddysgu na'r mwyafrif o bobl eraill o'r un oedran, neu
    • ag anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 sy'n ei atal neu'n ei rwystro rhag gwneud defnydd o gyfleusterau ar gyfer addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill o'r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.
  • Mae gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw ef neu hi, neu os na fyddai darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei gwneud, yn debygol o fod dan is-adran (2) pan fydd o oedran ysgol gorfodol. 

"Darpariaeth dysgu ychwanegol" neu "DDdY"

  • Ystyr “Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol” ar gyfer unigolyn tair oed neu’n hŷn yw darpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy'n ychwanegol at, neu'n wahanol i’r hyn a wneir yn gyffredinol ar gyfer eraill o'r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru, sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu leoliadau yng Nghymru y darperir addysg feithrin ynddynt.
  • Ystyr "darpariaeth ddysgu ychwanegol" i blentyn dan dair oed yw darpariaeth addysgol o unrhyw fath
  • Ystyr "addysg feithrin" yw addysg sy'n addas i blentyn sydd wedi cyrraedd tair oed ond sydd o dan oedran ysgol gorfodol

Wrth wneud y penderfyniad os bydd angen CDU ar y person ifanc bydd yr ysgol yn ystyried os oes gan y disgybl ADY sy'n gofyn am DDdY. Gall DDdY fod ar sawl ffurf; Gellir darparu'r cymorth mewn grwpiau bach, darpariaeth unigol neu bwrpasol. Mae hyn fel arfer yn cael ei ddarparu drwy adnoddau'r ysgol ond gall gynnwys cymorth a chyngor/gwasanaeth gan ADY a gwasanaeth Cynhwysiant yr Awdurdod Lleol.

Gall DDdY ar gyfer y rhai dan dair oed fod ar sawl ffurf; er enghraifft, gwaith grŵp neu gymorth unigol - lle mae'r disgybl yn mynychu darpariaeth addysgol o unrhyw fath. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft cymorth iechyd arbenigol, corfforol, cyfathrebu neu synhwyraidd yn eu lleoliad addysg.

Mae Gwasanaethau ADY a Chynhwysiant yr Awdurdod Lleol yn gweithio ar y cyd â'r person ifanc / rhieni/gofalwyr / ysgolion ac asiantaethau eraill gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn darparu cyngor, arweiniad a chymorth i ddisgyblion sydd wedi neu a allai fod ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).