Asesiad Statudol

O 1 Ionawr 2022, does dim modd gwneud cais am asesiad statudol mwyach. Bydd unrhyw ddisgyblion sydd â datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig presennol, neu'r rhai sy'n mynd trwy asesiad cyn 1 Ionawr 2022, yn parhau. 

Beth sy'n digwydd ar ôl y cais am Asesiad Statudol? 

Lle cafodd cais am Asesiad Statudol ei wneud cyn 1 Ionawr 2022, bydd yr asesiad yn parhau i'w derfyn.

Pan fydd y newidiadau'n cael eu gwneud, beth fydd yn digwydd i'r datganiadau presennol?

Bydd unrhyw ddatganiadau presennol yn parhau i fod yn ddogfennau cyfreithiol nes bydd CDU yn cymryd eu lle, neu hyd nes y bydd yr awdurdod lleol yn dweud wrthych ei fod yn bwriadu dod â datganiad i ben.

Tan fod plentyn neu berson ifanc yn symud i'r system newydd, mae'r system AAA a'r gyfraith bresennol yn parhau i fod mewn lle ar eu cyfer.

Bydd y ddwy system yn gweithredu ochr yn ochr â'i gilydd rhwng Medi 2021-2024, y system ADY newydd a'r system AAA wreiddiol.

Isod gallwch weld pryd mae'n rhaid symud plant yn y grŵp cyntaf i'r system ADY yn seiliedig ar eu grŵp blwyddyn ysgol. 

  • Blwyddyn ysgol 2022 i 2023 = Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 6, Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11 
  • Blwyddyn ysgol 2023 i 2024 = Blwyddyn 1,2,3,4,5,7,8 a 9 

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru am fwy o fanylion.