Pa mor hir mae'n ei gymryd i baratoi Cynllun Datblygu Unigol (CDU)?

Bydd yr amser a gymerir i baratoi CDU yn dibynnu ar natur a chwmpas anghenion plentyn neu berson ifanc.

Dylai paratoi CDU cryno ar gyfer plentyn neu berson ifanc sydd ag anghenion llai difrifol neu gymhleth fod yn broses gymharol syml a chyflym. Dylai CDUau o’r fath ffurfio’r rhan fwyaf o'r rheiny sy'n cael eu paratoi.

Mae’n debygol y bydd angen mewnbwn a chyngor arbenigol ar gyfer CDU i blentyn neu berson ifanc sydd ag anghenion difrifol, cymhleth neu lai cyffredin ac y bydd angen iddo fanylu ar ystod lawer ehangach o ymyriadau. Bydd paratoi CDU o’r fath yn gofyn am fwy o amser ac ymdrech ond dim ond yn y lleiafrif o achosion y bydd angen hyn. 

Mae'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cynnig bod yn rhaid i ysgol baratoi CDU yn brydlon, ac o fewn 35 diwrnod ysgol, yn achos disgybl sy'n blentyn, o’r adeg y daw i sylw’r ysgol neu y mae’n ymddangos i'r ysgol y gallai'r unigolyn hwnnw fod ag ADY, neu, yn achos disgybl sy'n berson ifanc, o’r adeg y mae’r disgybl yn cydsynio i'r penderfyniad sy'n cael ei wneud.

Y cyfnod cyfatebol yn achos awdurdod lleol (ALl) yw 12 wythnos (neu saith wythnos lle mae'r awdurdod lleol yn ailystyried penderfyniad ysgol ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY).

Os yw'r plentyn/person ifanc yn derbyn gofal neu ddim mewn addysg ar hyn o bryd (ar yr amod bod y plentyn yn ardal yr ALl), yna cyfrifoldeb yr ALl yw paratoi a chynnal y CDU ar gyfer y disgybl os oes gan y disgybl ADY sy'n gofyn am CDU.

Mae gan yr ALl 12 wythnos o'r dyddiad y daeth i'w sylw y gallai'r plentyn/person ifanc fod ag ADY i baratoi'r CDU (oni bai ei fod yn anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'w reolaeth).