Casgliad o offer a dulliau yw CCU, sy'n seiliedig ar set o werthoedd a rennir, y gellir eu gweithredu i gynllunio'n effeithiol gyda phlentyn/person ifanc, yn hytrach nag ar eu cyfer.
Mae offer CCU yn cynorthwyo'r plentyn/person ifanc, i ystyried beth sy'n bwysig iddo ar hyn o bryd, ei annog i feddwl am beth fyddai'n gyfystyr â dyfodol llwyddiannus, ac i fynd ati i adnabod y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni'r dyfodol hwn.
Mae dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn helpu i ddatblygu cylch cefnogaeth y plentyn/person ifanc drwy gynnwys yr holl bobl sy'n bwysig ym mywyd y plentyn/person ifanc hwnnw, gan gynnwys rhieni/gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda nhw.
Nid oes un dull unigol o weithio; yn hytrach, mae’n gyfuniad o ddulliau ac arddulliau, sy'n ei gwneud hi'n anos i'w diffinio.
Mae mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ffordd o roi llais i'r plentyn neu'r person ifanc sydd yng nghanol cynllun a llais yn yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw mewn gwirionedd. Mae gan weithwyr proffesiynol unigol arbenigedd a gwybodaeth ac maen nhw'n gwybod beth sy'n bwysig ar gyfer plentyn ond mae angen cydbwyso cynllun llwyddiannus i adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i'r plentyn ei hun hefyd.
Mae pum egwyddor allweddol o Gynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn:
- Yr unigolyn sydd yn y canol
- Mae aelodau teulu a ffrindiau'n bartneriaid wrth gynllunio
- Mae'r cynllun yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i'r person nawr (ac ar gyfer y dyfodol) eu galluoedd a pha gefnogaeth sydd ei hangen arnynt
- Mae'r cynllun yn helpu adeiladu lle'r person yn y gymuned ac yn helpu'r gymuned i'w croesawu. Nid yw'n ymwneud â gwasanaethau yn unig, ac mae'n adlewyrchu'r hyn sy'n bosib, nid dim ond yr hyn sydd ar gael
- Mae'r cynllun yn arwain at wrando, dysgu, a gweithredu pellach
Beth yw Proffil Un Dudalen?
Mae Proffil Un Dudalen yn cyfleu'r holl wybodaeth bwysig am berson ar ddalen sengl o bapur dan dri phennawd syml: beth mae pobl yn ei hoffi ac yn ei edmygu amdanaf i, beth sy'n bwysig i mi a sut orau i’m cefnogi.
Sut gallan nhw ein helpu i gefnogi pobl yn well?
Mae Proffiliau Un Dudalen yn hawdd i'w datblygu ac maent yn ein helpu i gefnogi pobl yn well drwy:
Ein helpu i feithrin perthynas well drwy ddeall yn iawn beth sydd wir yn bwysig i'r unigolyn yn ei fywyd a'r ffordd y mae’n cael ei gefnogi i'w fyw
Darparu cofnod a all symud gyda'r unigolyn wrth iddo bontio
Cael eu diweddaru'n rheolaidd i adlewyrchu amgylchiadau a dyheadau pobl sy'n newid.
Beth yw Adolygiad sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn?
Mae Adolygiad sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn defnyddio dulliau meddwl sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i archwilio beth sy’n digwydd o safbwyntiau’r unigolyn a phobl eraill.
Mae hyn yn arwain at ganlyniadau a gweithredoedd ar gyfer newid sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn sicrhau bod amrywiaeth o bobl yn rhan o'r broses pan fydd yr adolygiad yn digwydd, a bod eu barn a'u syniadau yn cael eu cofnodi mewn ffordd strwythuredig, gam wrth gam drwy:
- Sicrhau ein bod wir yn ystyried profiadau'r unigolyn, ei deulu a'r rhai sy'n eu cefnogi wrth adolygu pa mor dda mae pethau'n mynd
- Creu amgylchedd lle gwneir pobl i deimlo'n gyfforddus wrth fynegi eu hunain yn onest
- Datblygu camau sy'n seiliedig ar brofiadau a dysgu, gan arwain at amgylchedd lle rydyn ni'n gwella ein cefnogaeth yn gyson.