Sut y gall yr ysgol helpu

Fel rhiant, chi fydd yn adnabod eich plentyn orau. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am ddysgu neu ymddygiad eich plentyn dylech sôn amdanynt yn gyntaf wrth athro dosbarth eich plentyn, y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, y Pennaeth neu’r darparwr blynyddoedd cynnar.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn trafod eich pryderon gyda'r darparwr ysgol/addysg fel cam cyntaf.

Bydd cryn dipyn o blant yn cael trafferth gyda'u dysgu a'u hymddygiad rhywbryd yn ystod eu bywyd ysgol.

Mae ALl Casnewydd yn credu mai'r ffordd orau o helpu'ch plentyn yw i bawb gydweithio gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae'r dull hwn yn rhoi'r disgybl wrth wraidd y cynllunio ac yn sicrhau bod yr holl asiantaethau perthnasol yn cydweithio i gynllunio ar gyfer y dysgwr. Mae'r ALl yn credu y dylai plant a phobl ifanc deimlo'n hyderus y bydd rhywun yn gwrando a gwerthfawrogi eu barn.

Lle bo modd bydd plant a phobl ifanc yn cael eu hannog i gymryd rhan yn yr holl brosesau i wneud penderfyniadau sy'n digwydd mewn addysg.

Addysgir y mwyafrif o ddysgwyr o fewn lleoliadau prif ffrwd y blynyddoedd cynnar fel ysgolion a cholegau drwy ddarpariaeth a gwasanaethau cyffredinol.

Mae gan bob ysgol neu leoliad fap darpariaeth sy'n nodi ei hymateb graddedig i ddiwallu anghenion disgyblion gyda'r gefnogaeth a'r ymyriadau y mae wedi'u datblygu fel ysgol gyfan/lleoliad i ddiwallu anghenion y myfyrwyr ar y gofrestr. Efallai y bydd gan ddisgyblion Broffil Un Dudalen gyda thargedau i fonitro eu cynnydd gyda'r gefnogaeth a'r ymyriadau a gânt. 

Mae gan bob ysgol prif ffrwd a gynhelir yng Nghasnewydd gyllideb ADY wedi'i dyrannu i gynllunio cymorth a darpariaeth i ddisgyblion sy'n mynychu’r ysgol.

Bydd rhai disgyblion yn cael eu nodi gan yr hysgol fel rhai sydd ag Angen Dysgu Ychwanegol ac efallai y bydd angen cynllunio mwy unigol ar y disgybl gydag ymyriadau wedi'u targedu a darpariaeth ddysgu ychwanegol a ddarperir gan yr ysgol drwy Gynllun Datblygu Unigol. 

Lle mae hyn yn wir bydd yr ysgol yn siarad â chi am y cynllun, a chewch eich gwahodd i gyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda'r gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â chefnogi eich plentyn er mwyn llunio cynllun.

Gall ysgol eich plentyn hefyd siarad â chi am gael cymorth gan un o'n gwasanaethau canolog fel Seicoleg Addysgol neu Allgymorth sy'n gallu rhoi cyngor ac arweiniad i helpu i gynllunio ar gyfer disgybl yn yr ysgol.