Mathau o angen

Cyfathrebu a Rhyngweithio

Mae Plant a phobl ifanc sydd ag Anawsterau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (ALlICh) yn ei chael hi'n anodd cyfathrebu ag eraill.

Gall hyn fod oherwydd eu bod yn cael trafferth dweud beth maen nhw eisiau, deall beth sy'n cael ei ddweud wrthyn nhw neu nad ydyn nhw'n deall nac yn defnyddio rheolau cyfathrebu cymdeithasol.

Mae'r proffil ar gyfer pob plentyn sydd ag ALlICh yn wahanol a gall eu hanghenion newid dros amser. Efallai eu bod nhw'n cael anhawster gydag un, rhai neu bob un o’r gwahanol agweddau ar leferydd, iaith neu gyfathrebu cymdeithasol ar wahanol adegau o'u bywydau.

Mae plant a phobl ifanc sydd ag ASA, gan gynnwys Syndrom Asperger ac Awtistiaeth, yn debygol o gael anawsterau penodol gyda rhyngweithio cymdeithasol.

Efallai y byddan nhw hefyd yn cael anawsterau gydag iaith, cyfathrebu a dychymyg, sy'n gallu effeithio ar sut maen nhw'n ymwneud ag eraill.

Gwybyddiaeth a Dysgu

Efallai y bydd angen cefnogaeth ar gyfer anawsterau dysgu pan fydd plant a phobl ifanc yn dysgu'n arafach na'u cyfoedion, hyd yn oed gyda theilwra priodol*.

Mae anawsterau dysgu yn cwmpasu ystod eang o anghenion, gan gynnwys Anawsterau Dysgu Cymedrol (ADC), Anawsterau Dysgu Difrifol (ADD), lle mae plant yn debygol o fod angen cymorth ym mhob maes o'r cwricwlwm ac anawsterau cysylltiedig gyda symudedd a chyfathrebu, hyd at Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog (ADDLl), lle mae plant yn debygol o gael anawsterau dysgu difrifol a chymhleth yn ogystal ag anabledd corfforol neu nam ar y synhwyrau.

Mae Anawsterau Dysgu Penodol (ADP), yn effeithio ar un neu ragor o agweddau penodol ar ddysgu. Mae hyn yn cwmpasu ystod o gyflyrau megis dyslecsia, dyscalcwlia a dyspracsia.

*Nid yw pob plentyn yn datblygu ar yr un gyfradd. Mae rhai yn gweld dysgu'n hawdd ac yn datblygu'n gyflymach; tra bod eraill yn cael trafferth gyda thasgau neu sgiliau penodol ac yn datblygu ar gyfradd arafach. Felly, gosodir gwaith i bob plentyn sy'n cael ei gyfeirio ar ei lefel neu ei allu ei hun. Enw ar hyn yw Dysgu wedi’i Deilwra

Anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol

Gall plant a phobl ifanc brofi amrywiaeth eang o anawsterau cymdeithasol ac emosiynol sy'n amlygu eu hunain mewn sawl ffordd.

Gall y rhain gynnwys cael eu tynnu'n ôl neu eu hynysu, yn ogystal ag arddangos ymddygiad heriol, aflonyddgar neu sy’n codi pryder.

Gall yr ymddygiadau hyn adlewyrchu anawsterau iechyd meddwl sylfaenol fel gorbryder neu iselder, hunan-niweidio, camddefnyddio sylweddau, anhwylderau bwyta neu symptomau corfforol sydd heb esboniad meddygol.

Gall plant a phobl ifanc eraill fod ag anhwylderau fel anhwylder diffyg sylw, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd neu anhwylder ymlyniad.

Anghenion Synhwyraidd a/neu Gorfforol

Mae angen darpariaeth addysgol ychwanegol ar rai plant a phobl ifanc oherwydd bod ganddynt anabledd sy'n eu hatal neu'n eu rhwystro rhag gwneud defnydd o'r cyfleusterau addysgol a ddarperir yn gyffredinol.

Gall yr anawsterau hyn fod yn gysylltiedig ag oedran a gallant amrywio dros amser. Bydd llawer o blant a phobl ifanc sydd â Nam ar y Golwg, Nam ar y Clyw neu Nam Amlsynhwyraidd angen cefnogaeth arbenigol a /neu offer i gael mynediad at eu dysgu, neu gymorth sefydlu*.

Mae gan blant a phobl ifanc sydd â Nam Aml-synhwyraidd gyfuniad o anawsterau golwg a chlyw.

*Mae rhai plant a phobl ifanc sydd ag Anabledd Corfforol yn gofyn am gymorth parhaus ac offer ychwanegol i gael mynediad i'r holl gyfleoedd sydd ar gael i'w cyfoedion.