Cynllun Datblygu Unigol (CDU)

Yn y Ddeddf ADY a'r Tribiwnlys Addysg, mae'r CDU yn disodli'r prosesau cynllunio cyfredol a statudol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan gynnwys y 'Datganiad AAA', a bydd yn arwain at ddull mwy llyfn a hyblyg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.  

Bydd y CDU o fudd i blant a phobl ifanc 0-25 oed sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan y bydd yn: 

Creu system gynhwysol a chyfannol, gan wella cyfranogiad y plentyn / person ifanc mewn prosesau asesu a chynllunio unigol, ac o ganlyniad, yn gwella canlyniadau dysgu a lles ar gyfer plant / pobl ifanc ag ADY yng Nghymru. 

Gwella gwaith partneriaeth â rhieni a gofalwyr plant / pobl ifanc ag ADY, cynyddu ymddiriedaeth a hyder yn y broses, a hyrwyddo mwy o gysondeb o ran canlyniadau ac ansawdd rhwng ysgolion, Awdurdodau Lleol (ALlau) a Byrddau Iechyd

Gwella trefniadau partneriaeth rhwng asiantaethau a sefydliadau 'trydydd sector', a thrwy greu mwy o effeithlonrwydd wrth ddefnyddio adnoddau. 

Beth sydd mewn CDU?

Mae CDU yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol, megis gwybodaeth fywgraffyddol am y plentyn neu'r person ifanc, manylion cyswllt a gwybodaeth am y rhai sy'n gweithio gyda nhw a chyfraniadau gan blant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol o ran y pedair prif agwedd h.y.

  • ‘beth sy’n bwysig’ i’r plentyn / person ifanc? 
  • 'beth sy'n bwysig i'/ 'beth yw’r ffordd orau o gefnogi' y plentyn / person ifanc nawr ac yn y dyfodol 
  • ‘beth sy’n gweithio’
  • ‘beth nad yw’n gweithio’?
  • cynllun gweithredu, sy'n amlinellu sut y bydd anghenion y plentyn / person ifanc yn cael eu diwallu, gan bwy, a sut y bydd y cynllun hwn yn cael ei adolygu yn y dyfodol. 

Sut mae proses gynllunio lwyddiannus yn edrych? 

Mae CDU effeithiol yn gosod y plentyn wrth wraidd popeth ac mae’n:

  • ymatebol a hyblyg 
  • mynnu newidiadau mewn ymarfer proffesiynol a dull gweithredu 
  • hwyluso gweithwyr proffesiynol i gydweithio, cyfathrebu'n fwy effeithiol, ac yn eu hannog i gyfrannu at y prosesau asesu a chynllunio 
  • yn cynyddu 'perchnogaeth' o’r CDU gan y plentyn / person ifanc, eu rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol
  • yn sicrhau bod y plentyn / person ifanc, eu rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn cymryd rhan yn y broses
  • mae gan bawb sy'n cymryd rhan fewnbwn gwerthfawr ac mae pob un ohonynt yr un mor werthfawr. 

Mae pob CDU yn cynnwys cynllun gweithredu, sy'n cael ei adolygu'n rheolaidd gan bawb sy'n cyfrannu ato, a ategir gan system sicrwydd ansawdd gadarn sy'n cynnwys monitro a gwerthuso: 

  • y ddarpariaeth ar gyfer anghenion ychwanegol
  • canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol 
  • profiadau plant a phobl ifanc, eu rhieni a'u gofalwyr a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw. 

Mae datblygu'r CDU yn cynnwys y plentyn / person ifanc, eu rhieni / gofalwyr a'r holl weithwyr proffesiynol dan sylw mewn proses gydweithredol. 

Yn y mwyafrif o achosion dylai'r canlyniad fod yn gonsensws ynglŷn â sut i ddiwallu anghenion y plentyn / person ifanc dan sylw.  

Mae ProMoCymru wedi creu fideo YouTube fel canllaw i rieni ar Anghenion Dysgu Ychwanegol.