Cymorth synhwyraidd a chymorth cyfathrebu

Mae’r gwasanaeth cymorth synhwyraidd a chyfathrebu’n helpu plant sy’n fyddar, â nam ar y golwg, yn dioddef anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio neu nam aml-synhwyrol.

Ar hyn o bryd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy’n cynnal y gwasanaeth hwn, ar ran yr awdurdodau cyfagos: Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Sir Fynwy, yn cyflogi timau o arbenigwyr i gynnig cymorth a chefnogaeth.  

Adolygiad allanol annibynnol

 Yn dilyn cwblhau adolygiad allanol annibynnol gan CLlLC ar y Gasanaeth Cymorth Synhwyraidd a Chyfathrebu (SenCom) (pdf) ar ran Consortiwm Canolbarth y De, mae’r pum awdurdod lleol partner perthnasol wedi croesawu cyhoeddi’r adolygiad. Maent oll wedi cydnabod y sylwadau cadarnhaol yn yr adolygiad ac wedi ymrwymo i gydweithio gyda’i gilydd yn y dyfodol.

ComIT (Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu) 

Gwasanaeth mewn ysgolion ydy ComIT, sy’n helpu plant a phobl ifanc 3 i 13 oed y maent wedi derbyn diagnosis anghlinigol o angen lleferydd, iaith a chyfathrebu sy’n effeithio’n ddifrifol ar ei ddysgu.

Gall ComIT weithio ag unigolion neu grwpiau o blant mae’n cynnig: 

  • cyngor a gwybodaeth ar agweddau ar leferydd ac iaith;
  • atebion, adnoddau a strategaethau trwy waith unigol a grŵp;
  • cysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill, yn cynnwys therapi lleferydd;
  • hyfforddi ar gyfer staff ysgol i greu capasiti;

Daw ceisiadau i ComIT weithio â phlentyn gan awdurdod lleol.   

E-bost: ComiT@torfaen.gov.uk

Gwasanaeth nam ar y clyw

Nod y gwasanaeth nam ar y clyw yw helpu plant a phobl ifanc a nodir bod arnynt nam ar y clyw i wireddu eu potensial a chael sgiliau byw.  

Mae’r gwasanaeth yn cynghori ysgolion ynghylch sgiliau cyfathrebu, datblygu iaith a thrin plant â nam ar y clyw ac mae’n cynnig canllaw a chymorth i’r teuluoedd.  

Mae’n bosibl y caiff plant eu hatgyfeirio gan y gwasanaeth iechyd neu gan ysgolion sy’n bryderus ynghylch dysg plentyn.  

Wedi’r atgyfeirio, bydd un o’r tîm cynghori’n cynnig ymweliad yn y cartref â rhieni ac yna’n mynd i’r ysgol i weld y disgybl a phenderfynu pa gymorth sy’n briodol.  

Gall y gwasanaeth hefyd gynnig cymorthyddion radio a systemau chwyddo sain maes pan yw’n addas. 

E-bost: his@torfaen.gov.uk

Gwasanaeth nam ar y golwg 

Mae Gwasanaeth Nam ar y Golwg Gwent (VIS) yn cynorthwyo plant a phobl ifanc y mae arnynt nam ar y golwg neu nam aml-synhwyrol i wireddu eu potensial yn eu hysgolion lleol ymhlith brodyr, chwiorydd a ffrindiau. 

Gweithredir rhaglenni cyn ysgol mewn lleoliadau cyn ysgol, yng nghanolfan VIS neu yn y cartref.    

Mae’r gwasanaeth yn croesawu ymholiadau ac atgyfeiriadau gan unrhyw un sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc ac y mae’n pryderu ynghylch bod arno nam ar y golwg neu ar fwy nag un synnwyr. 

Pan dderbynnir cais, bydd un o’r arbenigwyr yn y tîm yn asesu anghenion y plentyn ac yn trafod y canlyniadau â’r rhieni a chyda gweithwyr proffesiynol meddygol i weld a oes unrhyw bryderon neu anghenion ychwanegol.

Yna, penderfynir a oes angen cymorth, a bydd hyn yn amrywio yn ôl anghenion pob plentyn o gymorth wythnosol i gymorth llawn amser yn y dosbarth ar gyfer plentyn sy’n defnyddio Braille. 

Mae VIS yn cynnig: 

  • cyngor a chyngor o’r geni; 
  • grŵp wythnosol ar gyfer plant cyn oedran ysgol;
  •  cyswllt anffurfiol i rieni a gofalwyr i helpu i leddfu unigedd;
  • cyngor ar leoliadau addysgol;
  • hyfforddiant symudedd a thywysydd sy’n gweld;
  • darparu a chynnal offer arbenigol;
  • cysylltu â sefydliadau statudol a gwirfoddol eraill;
  • gosod amcan dysgu realistig a chyraeddadwy;
  • asesu cryfderau plant ac anghenion unigolion;
  • cysylltiadau ag asiantaethau eraill; 
  • cymorth ysgol i’r plentyn neu berson ifanc;
  • cyfleoedd i blant a phobl ifanc gael cysylltiad ag eraill ag anghenion tebyg;
  • chwaraeon a gweithgareddau hamdden, cynlluniau gwyliau, cerddoriaeth a digwyddiadau cymdeithasol;
  • clybiau ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau;
  • dyddiau agored a chyfarfodydd â rhieni/gofalwyr;

E-bost: VIS@torfaen.gov.uk

Manylion Cyswllt

Gwasanaeth Cymorth Synhwyraidd a Chyfathrebu, Brecon House, William Brown Close, Parc Diwydiannol Llantarnam, Cwmbrân NP44 3AB.

E-bost: VIS@torfaen.gov.uk neu ffôn (01633) 648888  

TRA92463 22/10/2018