Cymorth Cyflogaeth a Hyfforddiant
Mae tîm gwaith a sgiliau'r cyngor yn cynnig cymorth cyflogadwyedd a sgiliau i drigolion Casnewydd, 16 oed a hŷn sy'n ddi-waith ar hyn o bryd ac sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau i chwilio am gyfleoedd cyflogaeth, a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â chyflogaeth.
Mae'r tîm yn darparu cymorth cyflogadwyedd un i un, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gynnwys help gyda’r canlynol:
- ysgrifennu CV
- ceisiadau swydd
- sgiliau cyfweliadau
- magu hyder
- cymwysterau achrededig, a chyrsiau sy'n gysylltiedig â chyflogaeth am ddim
- cymorth gyda chostau teithio a gofal plant
Trwy ein clybiau swyddi wythnosol, gallwn hefyd ddarparu hyfforddiant am ddim a chymorth mentora unigol i’ch helpu i mewn i’r gwaith neu i wella eich siawns o gael swydd.
Ar gyfer oedolion sydd ag anableddau, gall ein gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth Mynediad ddarparu hyfforddiant swydd arbenigol yn ogystal â hyfforddiant ymarferol a chefnogaeth ymarferol ar y safle i'r unigolyn.
Os ydych rhwng 16 a 19 oed ac nid ydych mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, mae gennym raglenni i'ch helpu i symud ymlaen, gan gynnwys Academi Ieuenctid Casnewydd.
Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli i gynyddu sgiliau, gwella iechyd, datblygiad personol a bod o fudd i'r gymuned ehangach.
Manylion Cyswllt
E-bost: [email protected]
Ffôn: 01633 656656