Swyddi gwag partneriaethau

WELSH We Care Wales_July 2020

Gofalwn Cymru

Os oes gennych chi agwedd gadarnhaol ac ymrwymiad i ofalu am eraill, yna ar gyfer y rhan fwyaf o rolau, gallwch dderbyn unrhyw hyfforddiant ac ennill unrhyw gymwysterau sydd eu hangen arnoch chi yn y swydd.

Mae pob math o ffyrdd o weithio’n hyblyg, felly gallwch drefnu gofalu am bobl o’ch cwmpas chi a’ch teulu - Gofalwn Cymru.


Taliadau uniongyrchol - swyddi gwag

Basaleg KK

Dwi'n fenyw anabl Saith deg pump oed o Fasaleg yng Nghasnewydd a dwi'n chwilio i gyflogi menyw am 10.5 awr yr wythnos a all fy nghefnogi i gynnal fy annibyniaeth.

 Bydd dyletswyddau'r rôl yn cynnwys fy helpu gyda pharatoi prydau bwyd, siopa, a chefnogaeth gyffredinol.  

Hefyd mae angen i mi fynychu apwyntiadau lleol yng Nghasnewydd felly byddai angen rhywun sydd â thrwydded yrru a char a'r yswiriant gofynnol (caiff petrol ei dalu ar gyfradd o 40c y filltir wrth fynd â fi allan yn y gymuned).

Oriau i'w gweithio dros 3 neu 4 diwrnod rhwng 11.00 A.M a 3.00 P.M. (dyddiau ac oriau o waith i'w cytuno yn dilyn cyfweliad llwyddiannus) ar gyfradd o £10.87 yr awr. Byddai profiad o weithio yn y sector cymorth yn ddymunol ond nid yn hanfodol. 

Os ydych yn unigolyn dibynadwy ac amyneddgar sy'n gallu ymrwymo i 4 awr yr wythnos ar gyfradd o £10.87 yr awr, e-bostiwch directpayments@newport.gov.uk i ofyn am ffurflen gais a dyfynnu'r cyfeirnod KK.

Alway RD

Mae angen Cynorthwy-ydd Personol am 10.5 awr dros 3 diwrnod yr wythnos i gefnogi gwryw 30 oed (diwrnodau ac oriau i'w cytuno yn dilyn cyfweliad llwyddiannus). 

Bydd dyletswyddau’n cynnwys darparu cefnogaeth yn y gymuned, cefnogaeth i ddysgu sgiliau newydd ar gyfer byw'n annibynnol, a chefnogaeth gyda phrydau / gweithgareddau paratoi.

CP i gefnogi gydag ysgogi a chynorthwyo gyda threfnau gofal personol. 
Mae profiad o'r system fudd-daliadau a gweithio gyda phobl ag awtistiaeth yn hanfodol.

Y gyfradd tâl yw 10.87 yr awr a bydd y cyflogwr yn trefnu ac yn talu am wiriad GDG manwl. Byddai’n well petai gennych rywfaint o brofiad, ond nid yw'n hanfodol. Os ydych yn ofalgar, yn ddibynadwy ac yn mwynhau swydd werth chweil yna anfonwch e-bost i direct.payments@newport.gov.uk gan ddyfynnu’r cyfeirnod RD.

EM Central

Teitl Swydd - Cynorthwy-ydd Personol (Gofalwr)

Cyfradd yr Awr- £10.87 yr awr  

Contract - Parhaol rhan amser (hyblyg 14 awr yr wythnos) 

Lleoliad- Casnewydd  

Mae angen cynorthwyydd personol ar ddyn ifanc yn ei 20au a gafodd anaf i'w ymennydd pan yn blentyn.  Mae angen cynorthwy-ydd personol arno i’w helpu i gael mynediad at weithgareddau galwedigaethol ystyrlon yn y gymuned.

Mae'n chwilio am berson brwdfrydig, proffesiynol, creadigol a chymhellol sydd â phrofiad priodol, sy'n gallu cymryd cyfarwyddyd yn dda ond sydd hefyd yn gallu hunan-gyfarwyddo. I weithio’n rhan o dîm sy'n darparu cymorth a gofal i'r cleient gan sicrhau diogelwch a lles corfforol. 

I hwyluso annibyniaeth y dyn ifanc drwy fabwysiadu'r dull priodol fel y cynghorir gan y rheolwr achos. 
I wneud cais am y swydd hon a gofyn am ffurflen gais cysylltwch â direct.payments@newport.gov.uk gyda’r cyfeirnod ‘EM Central’

Mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau'n gysylltiedig â'r swydd hon. Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae croeso i chi gyflwyno'ch cais yn Saesneg, yn Gymraeg neu unrhyw iaith arall.  Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal. 

Gaer MC

Teitl Swydd – Cynorthwy-ydd Personol (gofalwr)

Cyfrydd Yr Awyr: £10.87 yr awyr 

Contract - Parhoral rhan-amser (hyblyg 3 awr y mis) 

Lleoliad- Gaer, Casnewydd

Mae angen cynorthwyydd personol i gefnogi plentyn ag awtistiaeth. Hefyd, mae angen cefnogi'r plentyn gyda gweithgareddau a gytunwyd gan y rhieni ar ddydd Iau. Byddai profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd gofal yn ddymunol.

Bydd angen i chi fod yn empathetig, yn egnïol, yn hyblyg, yn amyneddgar, yn ddibynadwy, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da ac yn gallu gweithio ar eich menter eich hun. Bydd angen i chi fod yn hyblyg i weddu i anghenion y cyflogwr a bod ar gael i weithio'n hyblyg. Mae trafnidiaeth eich hun yn hanfodol a byddai angen yr yswiriant busnes angenrheidiol i'w diogelu eu hunain.

I wneud cais am y swydd hon a gofyn am ffurflen gais cysylltwch â direct.payments@newport.gov.uk gan gyfeirio at: ‘Gaer MC’. Mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd hon.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Gais Datgeliad Manwl i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Gymraeg, Saesneg neu unrhyw iaith arall. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Malpas MA 

Teitl Swydd – cynorthwy-ydd personol (gofalwr)

Cyfrydd Yr Awyr: £10.87 YR AWR   

Contract - Parhoral rhan-amser (hyblyg 4 awr y mis) 

Lleoliad- Malpas, Casnewydd

Mae angen cynorthwyydd personol i gefnogi plentyn sydd â pharlys yr ymennydd.  Hefyd, i gefnogi'r plentyn gyda gweithgareddau a gytunir gan y rhieni.  Oherwydd symudedd y plentyn, bydd angen ei gynorthwyo ar adegau. Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd gofal yn ddymunol.  

Bydd angen i chi fod yn amyneddgar, yn hyblyg, yn egnïol, yn ddibynadwy, yn empathig, a meddu ar sgiliau cyfathrebu da a’r gallu i weithio ar eich liwt eich hun. Bydd angen i chi fod yn hyblyg i gyd-fynd ag anghenion y cyflogwr a bod ar gael i weithio'n hyblyg. Mae eich trafnidiaeth eich hun yn hanfodol a byddai angen yswiriant busnes arnoch.  

I wneud cais am y swydd hon a gofyn am ffurflen gais cysylltwch â direct.payments@newport.gov.uk gyda’r cyfeirnod 'Malpas MA'. Mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau'n gysylltiedig â'r swydd hon. 

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae croeso i chi gyflwyno'ch cais yn Saesneg, yn Gymraeg neu unrhyw iaith arall.  Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal. 

St Julians, Casnewydd : TC

Cynorthwy- Ydd/Cymorth Personol

(21 awr yr wythnos dydd Llun - dydd Gwener)

Dyn 33 oed ydw i sy'n byw yn ardal Sain Silian, Casnewydd. Dwi'n hollol ddall gyda pharlys yr ymennydd. Dwi'n byw gydag aelod cefnogol o'r teulu. Fy mhrif ddiddordeb a'r peth dwi’n fwyaf brwd amdano mewn bywyd yw cerddoriaeth. Dwi'n gwneud fy ngherddoriaeth electronig fy hun, sef grime a techno gan amlaf, ac yn hoffi mynychu nosweithiau clwb a digwyddiadau cerddoriaeth eraill pan dwi'n cael y cyfle. 

Rwy'n chwilio am gymorth gyda gweithgareddau pob dydd a chymorth wrth ymgysylltu â'r gymuned. 

  • Paratoi a choginio prydau bwyd ddau ddiwrnod yr wythnos
  • Fy helpu i roi trefn ar ddillad
  • Mynd â fi i grwpiau ac apwyntiadau
  • Fy nghefnogi i siopa ar-lein a thasgau cartref eraill
  • Fy nghefnogi gyda rhyngweithio cymdeithasol
  • Mynd i'r gampfa ac i gynorthwyo gyda fy ffitrwydd cyffredinol
  • Mynd â fi allan i siopa
  • Dringo creigiau dan do a gweithgareddau eraill yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bryste.
  • Mynd i gaffis
  • Fy nghefnogi gyda gweithgareddau cymdeithasol ym Mryste.

 

  • Rhywun a fydd yn fy ngwthio a'm hysgogi i gyflawni fy nodau a'm dyheadau. 
  • Rhywun sy'n ddeinamig ac yn hyblyg ac yn gallu trin ystod eang o sefyllfaoedd. 
  • Rhywun sy'n empathig gydag agwedd gadarnhaol a synnwyr digrifwch da. 
  • Rhywun sy'n ysgogol ac yn ddibynadwy.
  • Rhywun a fydd yn mwynhau bod yn rhan o’m twf a'm datblygiad mewn bywyd.
  • Rhywun sy'n hyderus ac yn gymdeithasol. 
  • Rhywun sydd â gafael sylfaenol ar dechnoleg/gliniaduron/ffonau.
  • Rhywun sy'n mwynhau cerddoriaeth er nad yw hyn yn hanfodol.Mae rhywun sy'n berchen ar gar ac sy’n gyrru yn hanfodol.

Oriau Gwaith• 21 awr / wythnos – gellir trafod oriau hyblyg 
Cyfrydd y Cyflog • £10.87 yr awr • Petrol @ 0.40c/milltir (wrth fynd â fi allan yn y gymuned)• I wneud cais os oes diddordeb, e-bostiwch: direct.payments@newport.gov.uk 

• Bydd trafodaeth ragarweiniol cyn y cyfweliad.

Gaer, Casnewydd : PS

Rwy'n bwriadu cyflogi Cynorthwy-ydd Personol i gefnogi fy mab 7 oed gydag anghenion ychwanegol i gael mynediad i'r gymuned am 3 awr yr wythnos ar y gyfradd £10.87 yr awr. (Yn ddelfrydol, byddai hyn ar y penwythnosau yn ystod y tymor a gall hyn fod yn hyblyg yn ystod gwyliau’r ysgol.)

Nid yw fy mab yn siarad ac mae’n mwynhau'r awyr agored ac yn hoff o chwilio am brofiadau synhwyraidd. Mae'n hoffi bod yn weithgar a symud trwy'r amser. Mae’n dwlu ar drampolinio, chwarae mewn dŵr, siglenni, sleidiau a gweithgareddau corfforol. Nid yw'n hoffi chwarae meddal na phan fo gormod o bobl neu ormod o synau. Weithiau mae’n gallu bod yn sensitif i oleuadau lefel isel, yn enwedig mewn rhai siopau neu lefydd bwyta. Nid oes ganddo unrhyw synnwyr o berygl ac felly mae angen dal ei law bob amser, gan ei fod yn ddiamynedd iawn i aros mewn ciwiau, ac ati. 

Rwy'n chwilio am rywun i fynd ag ef allan i'r parc trampolinio, y parc chwarae, am dro da ac weithiau i McDonald’s. Mae'n mwynhau chwarae mewn dŵr, felly mae’n bosibl y gallai nofio fod yn opsiwn arall.

Rhaid cyflwyno cais am ddatganiad manwl i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) a rhaid i'r gweithiwr llwyddiannus fod â'r yswiriant gofynnol ar gyfer ei gerbyd.

Os ydych yn unigolyn dibynadwy ac amyneddgar sy'n gallu ymrwymo i 3 awr yr wythnos ar y gyfradd £10.87 yr awr, e-bostiwch direct.payments@newport.gov.uk i ofyn am ffurflen gais a dyfynnu'r cyfeirnod PS.

Basaleg NF

Cynorthwy-ydd/Gofalwr Personol  

Cyfradd y cyflog yw £10.87 yr awr am 14 awr yr wythnos (O leiaf 1 awr yn y bore a'r nos am 6 diwrnod yr wythnos). 

Mae teulu'n chwilio am gynorthwyydd gofal personol i gefnogi eu mab sy'n oedolyn, er mwyn helpu i ddiwallu ei anghenion gofal personol. Byddai profiad yn dda ond nid yw'n hanfodol. 

Mae gan y mab Syndrom Angelman, sef cyflwr genetig sy'n effeithio ar y system nerfol ac sy'n achosi anableddau corfforol a dysgu difrifol.  

Oherwydd cymorth gyda gofal personol, mae'r teulu'n gofyn i'r ymgeisydd fod yn wrywaidd.  Mae hyn yn eithriad dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.  Bydd yr Awdurdod Lleol yn ymgymryd â hyn ac yn talu amdano.

 I WNEUD CAIS: Os ydych yn ofalgar, yn ddibynadwy ac yn mwynhau swydd werth chweil yna anfonwch e-bost i direct.payments@newport.gov.uk gan ddyfynnu’r cyfeirnod NF i gael ffurflen gais.

Mae croeso i chi gyflwyno'ch cais yn Saesneg neu yn Gymraeg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.