Yr Iaith Gymraeg
Nod Cyngor Dinas Casnewydd yw bod yn sefydliad sy'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg ymhlith ei staff. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni greu amgylchedd a diwylliant lle mae'r ddwy iaith yn cael eu hystyried yn gyfartal, a lle mae staff yn teimlo eu bod yn gallu defnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg. Rydym yn cynnig Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o’r Iaith Gymraeg a'r cyfle i ddysgu a datblygu sgiliau iaith Gymraeg ar lefelau gwahanol.
Rydyn ni eisiau arwain ein dinas drwy esiampl ac annog defnyddio'r Gymraeg, gan gynyddu'r cyfleoedd i weld, clywed a defnyddio'r Gymraeg. Bydd hyn, yn ei dro, yn gwella amlygrwydd a phroffil allanol y Gymraeg ar draws y ddinas.
Gofynnir i staff sicrhau bod y canlynol yn cael eu dosbarthu yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg:
· Llofnod E-bost
· Arwyddion (gan gynnwys arwyddion swyddfa)
· Ateb y ffôn
Mae Polisi Sgiliau'r Gymraeg y cyngor yn nodi dull cydlynus o recriwtio, hyfforddi a datblygu dysgwyr a siaradwyr Cymraeg ar draws y cyngor. Bydd yn helpu i sicrhau twf y Gymraeg o fewn y gweithle. Caiff y polisi hwn ei adolygu'n flynyddol a'i ddiwygio yn unol ag unrhyw newidiadau ym mhatrymau, bylchau neu lwyddiannau'r gweithlu.
Manylion cyswllt
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Thîm yr Iaith Gymraeg a Chydraddoldeb yn nccequality@newport.gov.uk.