Cod ymddygiad cyflogeion

Disgwylir i gyflogeion llywodraeth leol roi gwasanaeth o’r safon uchaf i’r cyhoedd.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn disgwyl i bob un o’i gyflogeion arwain trwy esiampl a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r holl reolau a rheoliadau a bod yr holl weithdrefnau ac arferion yn ddi-fai.

Mae Cod Ymddygiad Cyflogeion (pdf) y Cyngor yn ymgorffori cyfraith, rheoliadau ac amodau gwasanaeth presennol ac mae wedi ei fwriadu i gynorthwyo cyflogeion yn eu gwaith a sicrhau eu bod yn arfer ymddygiad priodol yn ystod eu cyflogaeth gyda Chyngor Dinas Casnewydd.