Ein Gweledigaeth a'n Blaenoriaethau Cydraddoldeb

Rydym yn gyngor sy'n falch o'n treftadaeth ddiwylliannol amrywiol a chyfoethog.  Mae ein cymunedau'n amlieithog ac amlddiwylliannol, gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig yn cynrychioli dros 40% o boblogaethau rhai o’n wardiau. Rydym yn angerddol am gydraddoldeb, rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein staff, ac yn cefnogi diwylliant cynhwysol sy'n caniatáu i bawb ddod â'u hunain dilys i'r gwaith. Darllenwch fwy am ein hymrwymiadau i gydraddoldeb

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol. Darllenwch fwy am yr addewid rydym wedi'i wneud, a'r hyn y mae'n ei olygu i'n gweithlu

Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan siaradwyr Cymraeg, pobl anabl, pobl sy'n nodi eu bod yn LHDTC+ a phobl o gefndir ethnig lleiafrifol, fel rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth ar bob lefel o'r sefydliad.

Cefnogi gweithlu amrywiol

I'n helpu i feithrin diwylliant cynhwysol, mae gennym amrywiaeth o rwydweithiau cymorth staff sy'n darparu lle diogel i gydweithwyr rannu profiadau, derbyn a chynnig cefnogaeth gan gymheiriaid, a helpu i lunio ein polisïau yn y gweithle:

  • Rhwydwaith Staff Amrywiaeth Casnewydd – ar gyfer cydweithwyr o gefndir Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
  • Rhwydwaith Staff IN-NCC Casnewydd – ar gyfer cydweithwyr anabl
  • Rhwydwaith Balchder Casnewydd – ar gyfer cydweithwyr sy'n nodi eu bod yn LHDTC+

Mae Charles Nyamhotsi, Cadeirydd y Rhwydwaith Staff Amrywiaeth, yn cynnig ei fewnwelediad i waith y rhwydwaith:

"Mae Rhwydwaith Staff Amrywiaeth Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio drwy ddod â staff o wahanol gefndiroedd hiliol, diwylliannol a chred at ei gilydd i ymuno â Chyngor Dinas Casnewydd i ddathlu, gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth, darparu amgylchedd gwaith diogel a chefnogi ymgyrchoedd a digwyddiadau cymdeithasol sy'n effeithio ar eu hunaniaeth.

Charles Nyamhotsi, Chair of the Diversity Staff Network

Mae swyddogaethau ein rhwydwaith yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i;

  • Mynd i'r afael â hiliaeth yn y gweithle a rhoi terfyn ar hiliaeth yn y gweithle.
  • Creu diwylliant yn y gweithle sy'n gynhwysol, yn wrth-hiliol, yn hyrwyddo cydraddoldeb hiliol ac yn cadw staff amrywiol
  • Hyrwyddo uwch dîm rheoli mwy amrywiol
  • Cynnal gweithdy ymwybyddiaeth ar Ragfarn Ddiarwybod i staff ac arweinyddiaeth amrywiol gyda chynllun i’w gyflwyno’n ehangach
  • Adolygu'r Polisi Bwlio, gan ei newid i Urddas yn y Gweithle
  • Gwella cynrychiolaeth o'r gweithlu a hefyd cefnogi ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys a negeseua Hanes Pobl Dduon 365
  • Helpu Cyngor Dinas Casnewydd i ddeall profiadau/dealltwriaeth o wahaniaethu/rhagfarn yn well
  • Cynhyrchu'r ddogfen Gwrth-Hiliol i annog pob aelod o staff i ddod yn wrth-hiliol a meddwl fel unigolion am sut y gallant sicrhau newid go iawn a gwirioneddol i hiliaeth.

Mae'r Rhwydwaith Staff Amrywiaeth yn edrych ymlaen at weithio gyda phob Pennaeth Gwasanaeth i hyrwyddo buddiannau ei aelodau; sicrhau bod digon o gymorth ar gael pan fo angen, er mwyn sicrhau bod digwyddiadau cymdeithasol yn amrywiol ac yn groesawgar, a sicrhau bod cynrychiolaeth yn gyfartal ac yn deg i'r holl staff.

Hoffai'r rhwydwaith weld sianeli cyfathrebu effeithiol rhwng arweinwyr a staff amrywiol, gan weld geiriau'n cael eu trosi'n gamau gweithredu a chanlyniadau gweladwy sydd o fudd i'n haelodau." 

Ein Rhwydwaith Staff Pride

Sefydlwyd ein Rhwydwaith Staff Pride yn gynnar yn 2021 ac mae'n cynnwys aelodau o staff sy'n LHDTC+ ac sydd hefyd yn croesawu'r rhai sy'n cwestiynu eu rhywioldeb. Rydym yn cynnal cyfarfodydd staff rheolaidd, yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol lle rydym yn cyfarfod y tu allan i'r gwaith hefyd. Mae'n lle diogel lle rydym yn gwrando, yn cefnogi ac yn annog ein gilydd i fod ni ein hunain.

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o adrannau yn y cyngor ac yn cyfrannu at lawer o brosiectau:

  • Adolygu polisïau
  • Cyfathrebu mewnol ac ymwybyddiaeth 
  • Adolygiad o'r arolwg diwylliant yn y gweithle
  • Cysylltu â rhwydweithiau staff eraill i rannu arfer gorau
  • Mynychu cyfarfodydd chwarterol y Grŵp Cydraddoldeb Strategol a chynnig llwyfan i leisiau heb gynrychiolaeth ddigonol
  • Arwain digwyddiadau allanol lleol

Rydym yn gobeithio gweithio'n agosach gyda'r uwch dîm arwain a Phenaethiaid Gwasanaeth newydd, i sicrhau bod Cyngor Dinas Casnewydd yn fan lle mae unigolion yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a bod pawb o dan ymbarél LHDTC+ yn cael eu croesawu a'u cynnwys yn deg.

Ein hymrwymiad i’r Gymraeg

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghasnewydd yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru a nodir yn Cymraeg 2050:  Miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Rydym am i bobl Casnewydd ddefnyddio, gweld a chlywed Cymraeg fel iaith gymunedol fyw ym mhob rhan o fywyd.  Rydym yn gweithio i ddatblygu ein dinas yn un sy'n ymwybodol o'i diwylliant a'i hanes a'r rhan y mae'r Gymraeg yn ei chwarae yn hyn.  Rydym am i ddinasyddion Casnewydd fedru byw, gweithio a mwynhau ynddi, yn ogystal â chael gwasanaethau a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd. Dinas lle mae dwyieithrwydd yn hollol naturiol, a lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei diogelu a’i meithrin i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau a'i defnyddio.