Rhandiroedd: Mae gan Gasnewydd sawl safle rhandir ar draws y ddinas.
Incredible Edible: prosiectau cymunedol sy'n creu ardaloedd tyfu bwyd ar fannau gwyrdd.
Grŵp Awyr Agored Casnewydd (NOG): digwyddiadau gyda'r nos ac ar benwythnosau yng Nghasnewydd a'r tu allan, rhai ymhellach i ffwrdd.
Rhedeg yn y Parc: mae digwyddiadau rhedeg mewn parciau wedi'u hatal ar hyn o bryd oherwydd COVID-19, er y gallwch gerdded, loncian neu redeg eich llwybr 5k eich hun a chyflwyno'ch amser ar-lein.
Cerddwyr De Gwent: grŵp cerdded sy’n cwrdd ar ddydd Sul, 9.30am ym maes parcio uchaf y Ganolfan Ddinesig ar Fields Road. Mae teithiau’n amrywio rhwng 5 milltir a 10 milltir dros wastatir.
Cyfeillion Cerdded Cymru: Teithiau cerdded ar ddydd Mercher i bobl 50 oed a hŷn, am 11am neu 1pm. Dewch i gwrdd yng Nghanolfan Mileniwm Pilgwenlli I gadw lle, ffoniwch Laura Service ar 07730 760054 neu e-bostiwch laura.service@livingstreets.org.uk
Cyfeillion Cerdded Cymru: Mae teithiau cerdded ar gyfer pobl dros 50 oed i gwrdd â phobl newydd, darganfod mannau gwyrdd, ymlacio a dal i fyny.
Bydd hyd a thir y teithiau cerdded yn cael eu harwain gan y grŵp sy'n mynychu.
Cyfarfod ar ddydd Mercher am 11am yn Hyb Cymunedol Ringland.
I gadw lle, ffoniwch Laura Service: 07730 760054 neu e-bostiwch laura.service@livingstreets.org.uk
Mae Laura o Living Streets yn edrych ymlaen at eich croesawu i'r daith gerdded.
Cerddwyr Cymru - Prosiect Llwybrau at Les: Mae prosiect Llwybrau at Les yn darparu gwirfoddoli cymunedol i wella mannau gwyrdd lleol, natur a mynedia . Mae'n ceisio gwella lles corfforol a meddyliol cymunedau drwy eu helpu i fod yn fwy egnïol mewn mannau gwyrdd o ansawdd gwell, mwy bioamrywiol a hygyrch.
Yn digwydd ym Maendy, gall tasgau gynnwys hau hadau blodau gwyllt neu blannu coed.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Rhys Russell, Swyddog Ymgysylltu Ramblers Cymru rhys.russell@ramblers.org.uk / 074438 84636 neu, Brân Devey, Rheolwr Ymgysylltu a Chyfathrebu Ramblers Cymru, bran.devey@ramblers.org.uk / 07383550964.