Gwybodaeth Bellach
Consesiynau
Efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad ar brisiau cyrsiau.
Sylwch fod amodau’n berthnasol a bydd gofyn i chi ddangos tystiolaeth eich bod yn derbyn budd-daliadau y mae’n rhaid iddi fod yn ddilys ar y diwrnod y byddwch yn cofrestru ar y cwrs.
Siaradwch ag aelod o staff neu anfonwch e-bost i community.learning@newport.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Polisi Ad-dalu
Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd yr hawl i ganslo neu gyfuno cyrsiau. Os yw hyn yn angenrheidiol, mae’n bosib y gellir cynnig ad-daliad llawn neu rannol.
Ni roddir ad-daliadau am unrhyw reswm arall.
Anabledd
Rhowch wybod i ni, cyn cofrestru, os oes gennych anabledd a allai effeithio ar gyfranogiad yn eich dewis gwrs, fel y gallwn ddarparu ar gyfer eich anghenion.
Ymrestru
I fod yn gymwys i gofrestru, rhaid bod myfyrwyr yn 16 oed neu’n hŷn ar ddechrau’r flwyddyn academaidd (1 Medi).
I holi am gwrs neu i gofrestru ar gwrs e-bostiwch: community.learning@newport.gov.uk neu ffoniwch 01633 656656.