Hysbysiad gwaredu tir cyhoeddus agored yn Ringland

HYSBYSIAD GWAREDU TIR CYHOEDDUS AGORED YN RINGLAND

Yn unol â darpariaethau adran 5 of the Playing Fields (Community Involvement in Disposal Decisions) (Wales) Regulations 2015rhoddir hysbysiad bod Cyngor Dinas Casnewydd yn bwriadu gwaredu tair llain o ofod agored (fel y disgrifir yn yr Atodlen isod) a leolir wrth Ganolfan Iechyd Ringland, Ringland, Casnewydd, drwy drosglwyddiad. Bydd y gwaredu’n caniatáu datblygu cyfleuster iechyd newydd. Gellir gweld cynllun yn dangos lleoliad bras y tir a effeithir drwy gysylltu â Thîm Trawsgludo’r Cyngor yn [email protected]

Dylai aelodau’r cyhoedd sydd am gyflwyno sylwadau neu wrthwynebiad i’r trosglwyddiad tir arfaethedig anfon sylwadau neu wrthwynebiad yn ysgrifenedig naill i’r cyfeiriad e-bost uchod neu i Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR (cyfeirnod: Tîm Trawsgludo) erbyn 5pm ar  26 Tachwedd 2021. 

G D Price

Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio,

Cyngor Dinas Casnewydd


ATODLEN

Llain 1 - Llain driongl o ardal wedi’i thirweddu i’r gogledd o flaen y Ganolfan Iechyd bresennol sy’n cynnwys arglawdd gweiriog o tua 0.07 erw

Llain 2 - Ardal weiriog i’r Dwyrain o’r Ganolfan Iechyd bresennol, yn hen safle clwb a ddymchwelwyd o tua 0.57 erw

Llain 3 - Ardal Gemau Amlddefnydd i’r de o’r Ganolfan Iechyd bresennol o tua 0.43 erw (i’w hamnewid)