Parciau
Parc Belle Vue
Rhoi gwybod am fater yn ymwneud â pharc
Ymgynghoriadau parciau a gwella chwarae
Mae Tîm y Parciau yn anelu at wella ardaloedd chwarae yng Nghasnewydd. Mae'r prosiect wedi sicrhau cyllid i uwchraddio mannau chwarae i ddarparu mannau chwarae diogel a hwyliog i blant.
Mae'r prosiect yn cael ei gynnal gyda mewnbwn y gymuned, gan sicrhau bod anghenion a dewisiadau teuluoedd lleol yn cael eu hystyried yn y broses ddylunio trwy ymgynghoriadau lluosog.
Darganfod mwy o wybodaeth am y prosiect parciau a gwella chwarae ac ymgynghoriadau yn y dyfodol.
Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (Rheoli Cŵn) 2022
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi rhoi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) ar waith ar gyfer parciau a mannau agored.
Mae'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r holl Fannau Cyhoeddus yn Ninas a Sir Casnewydd a diben y gorchymyn fydd gorfodi perchnogaeth gyfrifol ar gŵn.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 21 Tachwedd 2022 a bydd yn parhau mewn grym am 3 blynedd o’r dyddiad hwn, oni bai y caiff ei ymestyn gan orchmynion pellach a wneir dan bwerau statudol y Cyngor.
Dysgwch fwy am y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd