Hawliau tramwy cyhoeddus
efnyddio Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTCau)
Mae llawer o hawliau tramwy cyhoeddus, fel llwybrau troed, yn croesi tir preifat a ffermydd ar waith. Mae gennych hawl gyfreithiol i "basio ac ail-basio" ar hyd hawl tramwy cyhoeddus ac mae'n hanfodol eich bod yn dilyn y rheolau a'r cod cefn gwlad:
- Cadwch at linell y llwybr a dilynwch saethau marcwyr ffordd cyfeiriol. Os yw'n ardal neu'n llwybr cerdded newydd i chi, cynlluniwch o flaen llaw a gwiriwch cyn i chi ddechrau eich taith gerdded ar fap AO neu drwy ddefnyddio ein tudalen mapiau ar-lein. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau gyda marcio ffyrdd, dywedwch wrthym a byddwn yn ymchwilio iddynt.
- Peidiwch â stopio am gyfnodau hir neu chwarae gemau chwaraeon wrth ddefnyddio hawliau tramwy cyhoeddus ar dir preifat
- Gadewch giatiau fel y gwelwch hwy: os ydynt ar gau - cofiwch eu cau ar eich ôl; os ydynt ar agor - gadewch hwy ar agor.
- Defnyddiwch y bylchau, a’r camfeydd a'r gatiau a ddarperir i groesi ffiniau caeau – peidiwch â dringo dros ffensys neu waliau.
- Cadwch eich ci dan reolaeth agos bob amser, yn ddelfrydol ar dennyn byr. Mae hyn yn hanfodol wrth gerdded drwy gaeau gyda da byw, gan y gall presenoldeb ci achosi pryder i dda byw, yn enwedig os oes ganddynt ŵyn neu loi gyda nhw. Os nad ydych yn siŵr, peidiwch â mynd â chi i mewn i gae sy'n cynnwys da byw.
- Dylech bob amser bagio a binio baw eich ci lle bynnag yr ydych. Peidiwch byth â gadael bagiau o faw cŵn o gwmpas y lle, hyd yn oed os ydych yn bwriadu eu codi'n ddiweddarach. Yn y ddau achos gall hyn niweidio da byw yn ddifrifol. Darllenwch fwy am gerdded cŵn yng nghefn gwlad.
Cofiwch gadw pellter cymdeithasol wrth ddefnyddio llwybrau cyhoeddus, ceisiwch gyfyngu ar gyswllt dwylo â chamfeydd a gatiau a chariwch hylif diheintio dwylo i'w ddefnyddio ar ôl i chi gyffwrdd ag unrhyw arwynebedd.
Darllenwch fwy am y cod cefn gwlad.
Mwynhewch gerdded, beicio, reidio...
Mae tua 300 cilometr/186 milltir o hawliau tramwy cyhoeddus o fewn ardal Cyngor Dinas Casnewydd ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn llwybrau troed (287 cilomedr/179.4 milltir).
Mae’r cyngor yn rheoli ac yn cynnal a chadw’r rhwydwaith hwn o lwybrau, gan weithio’n agos gyda thirfeddianwyr a defnyddwyr er mwyn cadw’r llwybrau at safon lle y gellir eu defnyddio.
Cysylltwch â
Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y Tîm Cefn Gwlad.