Gwirfoddolwyr cefn gwlad
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn chwilio am wirfoddolwyr i wneud tasgau cadwraeth ymarferol mewn partneriaeth â Cadwch Gymru'n Daclus a Chanolfan Gamlas Fourteen Locks.
Bydd tîm gwirfoddolwyr y wlad a chamlesi'n gweithio ar amrywiaeth o dasgau cadwraeth ymarferol o amgylch Canolfan Gamlas Fourteen Locks a Gwarchodfa Natur Leol Allt yr Yn.
Gallai tasgau gynnwys gwaith trwsio bychan ar ffensiau, pontydd a llwybrau; gwella cynefinoedd trwy dorri tyfiant; creu pentyrrau boncyffion; gosod blychau nyth a thrin dolydd blodau gwylltion; gwneud gwaith cynnal cynefinoedd ar byllau, lociau a chamlesi e.e. trwy dynnu chwyn dŵr neu garthu’r gamlas a chlirio ysbwriel.
Bydd y gwirfoddolwyr yn cyfarfod bob dydd Iau o 10am tan 3pm neu 4pm. - Ni fydd disgwyl i chi ddod bob wythnos.
Os ydych chi’n hoffi gweithio yn yr awyr agored, yn mwynhau cefn gwlad Casnewydd a bod amser sbâr gennych, cysylltwch â ni!
Gwnewch gais am gael ymuno â gwirfoddolwyr cefn gwlad ar gamlas
Rydym yn chwilio am bobl â’r nodweddion canlynol:
- diddordeb mewn gwaith amgylcheddol yn yr awyr agored ac ymroddiad iddo
- hiwmor a hyblygrwydd
- sgiliau cyfathrebu da ac yn hoff o weithio fel aelod o dîm
- y gallu i gymryd rhan mewn tasgau ymarferol yn yr awyr agored
Rhoddir hyfforddiant yn y swydd gan warden cefn gwlad y Cyngor a swyddogion Cadwch Gymru'n Daclus.
Bydd celfi ac offer arbedol ar gael ar eich cyfer a dylech wisgo dillad addas ar gyfer gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd, gan gynnwys bŵts gwaith cadarn, gyda blaenau metel os oes gennych rai felly. Trefnir yswiriant llawn ar eich cyfer.
Bydd trafnidiaeth ar gael yn ystod yr oriau gwirfoddoli ond bydd angen i chi gyrraedd Canolfan Gamlas Fourteen Locks erbyn 10am.
Bydd angen i chi ddod â bwyd a diod ar gyfer y dydd.
Cyswllt
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y swyddog bioamrywiaeth ac addysg.