Fforwm Mynediad Lleol

Gaer Fort

Rydym yn edrych am aelodau i ymuno â Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl) i gynghori’r cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru ar sut gellid gwella mynediad cyhoeddus i dir yn yr ardal. 

Mae’r fforwm yn cynnwys gwirfoddolwyr unigol o bob rhan o Gasnewydd sydd â diddordeb penodol mewn cerdded, beicio, marchogaeth, cadwraeth neu bwnc perthnasol arall.

Mae’r FfMLl yn cwrdd o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac yn cynghori ar fynediad i’r cyhoedd i gefn gwlad at ddibenion hamdden a mwynhad.

Gall cyfarfodydd ychwanegol gael eu trefnu os oes angen.   

Diddordeb? Rydym am glywed gennych!   

• ydych chi’n ymrwymedig i swyddogaeth y fforwm?  

• ydych chi’n gallu ac yn barod i chwarae rhan lawn ym mhob agwedd ar waith y FfMLl?  

• oes gennych chi ddiddordeb mewn materion mynediad yn yr ardal, a phrofiad ohonynt? 

• oes gennych chi brofiad o fforymau tebyg?

• ydych chi’n byw yn ardal Casnewydd, yn gyfarwydd â hi neu â diddordebau sy’n berthnasol iddi?

• ydych chi’n gallu lledaenu gwaith y FfMLl drwy rwydwaith o sefydliadau ac unigolion?  

Cofnodion

Lawrlwythwch gofnodion FfMLl, Chwefror 2018 (pdf)

Lawrlwythwch gofnodion FfMLl, Tachwedd 2017 (pdf)

Lawrlwythwch gofnodion FfMLl, Medi 2017 (pdf)

Lawrlwythwch gofnodion FfMLl, Tachwedd 2016 (pdf) 

Cysylltu

Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm gwasanaethau gwyrdd.