Hybiau Cymdogaeth
Mae’r timau hybiau cymdogaeth yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cymorth i unigolion a theuluoedd ledled Casnewydd o bedwar hyb cymunedol.
Gallwn roi cyngor a chymorth ynghylch:
- chwilio am swydd
- hyfforddiant
- cymorth teulu neu dai
- dysgu Saesneg
- mynediad at TG
- cyfleoedd gwirfoddoli a mwy...
Gallwn hefyd roi hyfforddiant am ddim a chymorth mentora un i un i'ch helpu i mewn i waith neu i wella eich rhagolygon gwaith.
Os ydych yn 16-18 oed a ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, mae gennym raglenni i’ch helpu chi i ddatblygu.
Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli i wella sgiliau, gwella iechyd, datblygu personol a buddio’r gymuned ehangach.
Am fwy o wybodaeth ac i weld sut gallwn ni helpu cysylltwch â ni!
Cysylltiadau