Cyfarwyddwr Strategol - Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae Casnewydd yn lle gwych i weithio ac i fyw ynddo.  Rydym yn gyngor blaenllaw gyda llawer iawn i'w gynnig i'n Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol nesaf.

Gydag strwythur uwch reoli cymharol newydd, mae gennym dîm gwych a fydd yn eich cefnogi i lunio a datblygu'r rôl allweddol hon yn ein sefydliad, i sicrhau ein bod yn barod at y dyfodol ac yn barod i gwrdd â'n heriau a'n gweledigaeth fel cyngor. 

Gyda'n taith drawsnewid wedi hen ddechrau, mae'n adeg wirioneddol gyffrous i fod yn arwain y gyfarwyddiaeth gwasanaethau cymdeithasol.

Y rôl

Yn adrodd i'r Prif Weithredwr ac i'r cyngor, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â dau Gyfarwyddwr arall a byddwch yn atebol dros adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n cyflawni holl swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor i'n preswylwyr a bydd gennych gyfrifoldeb statudol fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd gennych dair swydd yn adrodd yn uniongyrchol i chi a’ch cefnogi, sef Pennaeth y Gwasanaethau Plant, Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Phennaeth Atal a Cynhwysiant.  

Byddwch yn arweinydd sy'n gweithio ar sail gwerthoedd a bydd gennych rôl allweddol wrth gynghori aelodau etholedig a'r uwch dîm rheoli ar ddarpariaeth ac ymarfer y gwasanaeth, trawsnewid a newid gwasanaethau, a byddwch yn sicrhau bod gweithlu talentog a galluog, sydd â’r adnoddau angenrheidiol, ar waith. Byddwch wrth wraidd perthnasoedd gyda phartneriaid yn lleol ac yn rhanbarthol. Byddwch yn sicrhau bod cyfrifoldebau statudol yn cael eu cynnal ac yn rheoli cyllidebau mawr a chymhleth, gan sicrhau bod gwasanaethau'n gynaliadwy yn ariannol. 

Gweld y disgrifiad swydd (pdf)

Cyflog: £114,391 - £124,492

Chi

Rydym yn chwilio am arweinydd uchelgeisiol a all gyflawni trawsnewid gwirioneddol i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau modern a chynaliadwy i'n cymunedau. Os gallwch ddangos tystiolaeth o'ch gallu i drawsnewid gwasanaethau a gwella canlyniadau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Rydym yn chwilio am rywun sydd â hanes yn y maes, sydd am ddatblygu ei sgiliau arwain strategol mewn amgylchedd heriol ond cyffrous. Dylai fod gennych weledigaeth a dylech allu effeithio ar ddiwylliant y gweithlu gyda'r gallu i adeiladu timau cyfranogol a galluog sy'n perfformio'n dda.

Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Donna Abraham, Cynorthwyydd Personol y Prif Weithredwr ar [email protected] neu 01633 656656.

Cais

I wneud cais ewch i www.newport-apply.co.uk

Amserlen 

Hysbyseb yn cau: 14 Ebrill a 11:59pm

Asesiad - Cynhelir asesiad ffurfiol gyda’r panel aelodau un ai ar 13 Mai 2024. Rhoddir gwybod am unrhyw ddyddiadau cyn-asesu cyn hyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer.  Dylai ymgeiswyr gadw'r dyddiad hwn yn rhydd a dylent fod ar gael i fynychu unrhyw rag-sesiynau.

Ar ôl y cyfweliad – Cewch wybod yn ystod y cyfweliad sut y bydd ymgeiswyr yn derbyn penderfyniad y panel ynglŷn â'ch cais neu unrhyw ddilyniant i'r camau nesaf.

Dyddiad dechrau – Unwaith y bydd y cynnig i benodi yn cael ei dderbyn, anfonir yr holl wybodaeth angenrheidiol atoch yn barod i ddechrau eich cyflogaeth. Bydd trefniadau hefyd yn cael eu gwneud rhyngoch chi a'r Prif Weithredwr i drafod dechrau eich cyflogaeth gyda'r cyngor.