Larymau Crog
Nid yw larymau crog yn rhan o gynnig Casnewydd, mae amrywiaeth o ddarparwyr y gallwch ddewis o'u plith.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful E - bost Lifeline@merthyr.gov.uk
Cyngor Sir Fynwy
Fel ein partner, gall Cyngor Sir Fynwy gynnig y gwasanaeth hwn i drigolion Casnewydd fel trefniant preifat am dâl gosod o £50 ac yna £4.50 yr wythnos.
Fel arall gallwch anfon e-bost AssistiveTech@monmouthshire.gov.uk
Mae'r gwasanaeth teleofal yn galluogi pobl i alw am gymorth os ydynt yn syrthio, yn mynd yn sâl neu'n cael argyfwng yn y cartref.
Caiff galwadau eu cyfeirio at ganolfan fonitro sy'n cael ei staffio 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Mae angen pwynt pŵer trydanol arnoch er mwyn gallu gosod uned larwm.
Os bydd y larwm yn cael ei actifadu anfonir neges at weithredwyr cymwys a fydd yn cysylltu â rhywun ar eich rhan.
Mae teleofal yn wasanaeth y codir tâl amdano, sef £4.50 yr wythnos ar hyn o bryd.
Ymgeisio
Ebostiwch firstcontact.adults@newport.gov.uk neu ffoniwch (01633) 656656 a gofynnwch am y tîm therapi galwedigaethol cymunedol.
Byddwn wedyn yn cysylltu â chi i drafod eich ceisiadau a chynnig gwybodaeth a chyngor.
Byddwn yn cynnig asesiad os byddwn yn teimlo bod angen rhagor o gymorth arnoch.
Os ydych yn gymwys, cewch gynnig un neu fwy o'r darnau offer hyn:
- synhwyrydd syrthio
- cadair a synwyryddion gwelyau
- synhwyrydd epilepsi
- diogelwch yn y cartref - galwr ffug
- oriawr GPS
Bydd preswylwyr cymwys yn cael eu cyfeirio at Careline Sir Fynwy am ymweliad technegol a gosod ar amser sy'n gyfleus i'r ddwy ochr.
Darperir gwasanaeth Teleofal Cyngor Dinas Casnewydd drwy gytundeb rhwng Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.