Grwpiau lleol i ofalwyr

 

Parkinson's UK – Cangen Casnewydd 

Cynhelir cyfarfodydd dau fis:

Cyfarfod Cymorth Grŵp - Dydd Llun diwethaf bob mis rhwng 2.30pm a 4.30pm yng Nghanolfan Gymunedol Maesglas, Heol Bideford, Casnewydd - gyda siaradwyr neu weithgaredd. Cysylltwch â Chydlynydd y Grŵp, Julie Evans ar 07446630229 neu [email protected] am fanylion.

Caffi Parkinson’s - Ail ddydd Gwener bob mis rhwng 2.15pm a 4.15pm yn Llyfrgell Maendy, Heol Cas-gwent, Casnewydd. Amser i gwrdd ag eraill gyda Parkinson’s a sgwrsio. Cysylltwch â Ruth Smith 07966 754366 neu e-bostiwch [email protected] am fanylion. 

Ein nod yw rhoi cefnogaeth a chyfeillgarwch i bobl sy’n byw gyda Parkinson’s. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Penny ar 07851 423264 neu [email protected].

Cymdeithas Cefnogwyr Anabl (CCA)

Yn cefnogi cefnogwyr Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd anabl a’u gofalwyr trwy ddarparu cadeiriau olwyn, gorchuddion i gadeiriau olwyn, blancedi ac amddiffynwyr i’r clustiau ar ddiwrnodau gemau (blaendal o £5). 

Mae nifer cyfyngedig o fannau parcio hygyrch y gellir eu cadw a gall y CCA drafod unrhyw bryderon a allai fod gennych am ddod i gemau. Ewch i wefan y CCA   

Chance Meetings Wales

Grŵp hamddenol a chyfeillgar o oedolion ifanc rhwng 10 a 16 oed gydag anghenion ychwanegol sy’n cynnig cyfle i wneud ffrindiau a chymdeithasu.  Chwaraewch bŵl, snwcer neu fwrdd tennis, rhowch gynnig ar gelf a chrefft, jig-sos neu gemau bwrdd.

Rydym yn ceisio darparu ar gyfer anghenion pawb, gan gyfarfod bob dydd Iau yng nghanolfan gymunedol Underwood ger Birch Grove, 6pm tan 730pm gyda £3 yn daladwy ar y dechrau.

E-bostiech [email protected] neu ffoniwch 07730 770194 am fwy o fanylion neu ewch i http://chancemeetingswales.weebly.com/home.html

Grwpiau i rieni sy'n ofalwyr

Rhieni dros Newid a ‘The Meet’

Cefnogaeth i rieni a gofalwyr pobl ifanc anabl rhwng 17 a 25 oed. Mae'r grŵp yn cyfarfod i drafod ystod eang o faterion megis iechyd, addysg a bywyd bob dydd.

Maent yn cyfarfod ar ddydd Mawrth cyntaf y mis yn Eglwys St Thomas, NP20 3AT, 10:30am i 12:30pm. Sylwch nad oes unrhyw gyfarfodydd yn ystod misoedd Gorffennaf, Awst ac Ionawr.

Mae Rhieni dros Newid hefyd yn cynnal grŵp cymdeithasol, The Meet, ar gyfer oedolion ifanc anabl rhwng 17 a 25 oed. Mae'r Meet yn hybu cyfeillgarwch, rhyngweithio cymdeithasol ac annibyniaeth.

Cysylltwch â Lisa ar 07737 679824 neu e-bostiwch [email protected]   

Grŵp Cymorth Awtistiaeth Casnewydd

Mae Grŵp Awtistiaeth Casnewydd yn grŵp cymorth ar gyfer rhieni, gofalwyr a neiniau a theidiau plant neu bobl ifanc sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD); boed wedi cael diagnosis neu'n aros am ddiagnosis.

Mae gennym lyfrgell o lyfrau, yn benodol i helpu ym mhob maes yn ymwneud ag awtistiaeth ac ADHD; ar gyfer y gofalwyr, y bobl ifanc a'u brodyr a chwiorydd. Gofynnwn am gyfraniad o £12 y flwyddyn i’n galluogi i barhau i brynu llyfrau newydd. Bydd y grŵp hefyd yn prynu unrhyw lyfrau y gofynnir amdanynt. Rhoddir benthyg llyfrau allan am gyfnod o fis. Bydd yn ofynnol i fenthycwyr dalu am brynu llyfrau newydd yn lle unrhyw lyfrau a gollwyd neu a ddifrodwyd.

Mae’r grŵp NAG yn cyfarfod bob dydd Iau cyntaf y mis (yn ystod y tymor), o 10 o’r gloch i 12 o’r gloch yng Nghanolfan Serennu. Rydym yn cyfarfod ar gyfer sgyrsiau anffurfiol a gwrando ar siaradwyr gwadd amrywiol.

Cysylltwch

Hilary Leadbeater (Cadeirydd a rhiant plentyn ag ASD) Ffôn Symudol - 0789 990 6344

E-bost - [email protected]

GRWP DADS GWENT

Mae grŵp tadau yn darparu cyfleoedd i dadau a gofalwyr gwrywaidd eraill gwrdd a chymdeithasu.

Cyfarfod bob ail ddydd Sadwrn bob mis yng Nghanolfan Serennu rhwng 10yb – 12. Ebostiwch [email protected] am fwy o wybodaeth.

LLEISIAU Cudd AWTISTIAETH

Os ydych chi'n rhiant ifanc gyda phlentyn awtistig sydd newydd gael diagnosis neu'n rhiant i berson ifanc yn ei arddegau neu oedolyn awtistig, yna cwrdd am goffi bob mis a sgwrsio â rhieni eraill a gweithwyr proffesiynol gwadd.

Cyfarfod yng Nghanolfan Glan yr Afon Casnewydd. Cysylltwch â 07477702339 am ragor o wybodaeth ac i gofrestru neu e-bostiwch [email protected]

ADHD+ CASNEWYDD

Os ydych chi'n cefnogi plentyn ag ADHD neu unrhyw gyflwr niwroddatblygiadol arall fel Awtistiaeth, yna gallwch chi ymuno â'n grŵp cymorth cyfoedion. Mae gennym grŵp Facebook ac ar hyn o bryd rydym yn cyfarfod 3 gwaith y mis, yn ystod tymor yr ysgol. Rydym yn agored i unrhyw un yng Ngwent ac nid oes angen diagnosis.

Mae'n grŵp cyfeillgar, cefnogol ac anfeirniadol sy'n cael ei redeg gan gyfoedion sydd â phrofiad o fyw.Rydym yn cyfarfod ar ddydd Mercher cyntaf y mis, 10am tan 12pm yn yr ystafell gymunedol yn ASDA Pill, Casnewydd.

Rydym hefyd yn cyfarfod ar y trydydd dydd Iau o’r mis, 10am tan 12pm, yng nghanolfan blant SERENNU yn Nhŷ-du.

Hefyd ar bedwaredd nos Lun y mis 5:30pm-7:30pm, yng nghanolfan blant SERENNU yn Nhŷ-du.Anfonwch neges destun at Natalie ar 07977 455 592 am ragor o wybodaeth neu i gadw lle.