Arolwg O'r Trefniadau Etholiadol ar Gyferdinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymrudeddf
Llywodraeth Leol Ywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013
Arolwg O'r Trefniadau Etholiadol ar Gyferdinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd
Bydd rhai o ffiniau wardiau Cyngor Dinas Casnewydd yn newid ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu derbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
Mae'n golygu y bydd nifer y cynghorwyr yng Nghasnewydd yn cynyddu gan un, gan fynd â’r cyngor o 50 i 51 o aelodau - cyfartaledd o 2,156 o etholwyr fesul aelod.
Bydd nifer y wardiau hefyd yn cynyddu o 20 i 21, gyda 18 ward yn ethol mwy nag un cynghorydd.
Bydd un ar ddeg o'r wardiau presennol yn aros yr un fath. Mae'r newidiadau, a ddaw i rym ar gyfer etholiadau nesaf y cyngor ym mis Mai 2022, yn cynnwys:
- Ward newydd Gorllewin Tŷ-du i gynnwys Pentref Afon gyda dau aelod
- Dwyrain Tŷ-du gydag un aelod•Gogledd Tŷ-du gydag un aelod
- Parc Tredegar a ward Marshfield sy'n cwmpasu Coedcernyw, Parc Tredegar, Gwynllŵg, Maerun a Llanfihangel-y-Fedw gyda thri aelod
- Bydd ward Stow Hill nawr yn cynnwys datblygiad Mon Bank
- Bydd Cymunedau Llangadwaladr Trefesgob, Langstone, Llanfaches a Phenhow yn cyfuno i ffurfio Ward Llangadwaladr Trefesgob a Langstone gyda dau aelod
- Bydd Allteuryn, Llanwern, Trefonnen a’r Redwig yn ffurfio ward Llanwern gydag un aelod
Gwybodaeth bellach
Mae'r adroddiad wedi ei gyhoeddi a bydd copiau ohono a map yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd ac yn swyddfeydd y Comisiwn abyddant ar gael i'w harchwilio am hyd at chwe mis ar of i unrhyw orchymyn iweithredu'r cynigion gael ei wneud.
Mae copiau ar gael i’w harchwilio yn y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd drwy apwyntiad yn unig. E-bostiwch corporate.admin@newport.gov.uk i drefnu apwyntiad.
Mae trefniadau hefyd yn mynd rhagddynt i osod copiau o'r adroddiad ymhobIlyfrgell gyhoeddus yn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd a bydd nifercyfyngedig ar gael drwy wneud cais amdanynt, gan Ysgrifennydd y Comisiwn ynTy Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd, CF24 OBL.