Pa etholiadau y gallaf bleidleisio ynddynt?
1. Etholiad cyngor lleol a chyngor cymuned
Gall yr holl etholwyr cofrestredig sy'n 16 oed neu'n hŷn ar y diwrnod pleidleisio bleidleisio yn amodol ar ddeddfwriaeth Senedd Cymru arall
2. Etholiad Senedd Cymru
Gall yr holl etholwyr cofrestredig sy'n 16 oed neu'n hŷn ar y diwrnod pleidleisio bleidleisio
3. Etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Gall etholwyr cofrestredig y DU, Iwerddon, y Gymanwlad a'r Undeb Ewropeaidd dros 18 oed ar y diwrnod pleidleisio bleidleisio
4. Etholiad Seneddol (Cyffredinol)
Gall etholwyr cofrestredig y DU, Iwerddon a'r Gymanwlad dros 18 oed ar y diwrnod pleidleisio bleidleisio
Sut i bleidleisio
Yn y DU gallwch naill ai bleidleisio'n bersonol yn yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad neu wneud cais am bleidlais bost neu wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy (rhywun yn pleidleisio ar eich rhan).
Y Comisiwn Etholidal:Pleidleisio drwy'r post
Y Comisiwyn Etholidal: Pleidleisio drwy ddirprwy
Y Comisiwyn Etholidal: Sut i bleidleisio trwy’r post
YComisiwyn Etholidal: Sut i bleidleisio trwy ddirprwy
Ewch i wefan Gov.UK i ddarllen mwy am bleidleisio
Cofrestrau Etholiadol
Mae dwy gofrestr etholiadol a grëir gan ddefnyddio gwybodaeth gan drigolion:
Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus.
Mae eich pleidlais yn cyfrif felly sicrhewch eich bod yn cofrestru i bleidleisio.
Fe'i defnyddir i sicrhau mai dim ond pobl gymwys sy'n gallu pleidleisio a hefyd i ganfod twyll, i alw pobl am wasanaeth rheithgor ac i wirio ceisiadau credyd.
Mae'r gofrestr agored yn ddarn o'r gofrestr etholiadol a gall busnesau ac elusennau ei phrynu.
Ewch i Gov.UK Cofrestru i Bleidleisio a chlicio ar y blwch ticio os nad ydych am i'ch enw na'ch cyfeiriad gael eu rhestru ar y gofrestr agored, ni fydd hyn yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.
Darllenwch hysbysiad preifatrwydd y gwasanaeth cofrestru etholiadol (pdf)
Cofrestru mewn ffordd arall
Os ydych yn teimlo y bydd eich diogelwch mewn perygl os bydd eich enw'n ymddangos ar y gofrestr etholwyr, cysylltwch â'r Swyddfa Cofrestru Etholiadol i gael cyngor.
Mae'n drosedd peidio â rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol a gallai arwain at ddirwy.
Cyswllt
Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Dinas Casnewydd Canolfan Ddinesig, Casnewydd, De Cymru NP20 4UR
Ffôn: (01633) 656656
E-bost: uvote@newport.gov.uk