Matching & Placement

SocialServices-MAPS

Mae'r Gwasanaeth Paru a Lleoli yn dîm amlasiantaethol gydag ymagwedd therapiwtig i ddarparu cefnogaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a leolir gyda gofalyddion maeth a gymeradwywyd mewn cartrefi preswyl i blant yng Nghasnewydd.

"Rwy'n teimlo bod y staff yn cael eu clywed ac yr wyf yn edmygu'r ffaith bod staff yn cael adborth cadarnhaol yn rheolaidd gan uwch reolwyr a Swyddogion Adolygu Annibynnol” Rheolwr Tîm

Nod y tîm yw cymryd ymagwedd ataliol ac yn rhoi'r cyfle am gymorth yn gynnar yn y broses pan fydd plentyn yn cael ei leoli.

Mae'r tîm hefyd yn chwilio am leoliadau maethu a phreswyl ac yn paru anghenion y plant i ofalyddion maeth ac arbenigedd preswyl.

Mae'r tîm Gwasanaeth Paru a Lleoli wedi ei leoli yn y Ganolfan Ddinesig o fewn y gwasanaeth maethu.