Dyletswydd ac Asesu

SocialServicesDAT

Y Tîm Dyletswydd ac Asesu yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol sy'n gwneud atgyfeiriadau â phryderon ar gyfer plant sydd mewn perygl o niwed sylweddol neu sy'n blant mewn angen.  

“Mae rhwydweithiau xymorth dda â'r swydd mentor hyfforddwr ar gyfer gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso a chymorth i'r rheiny y gall fod angen cymorth ychwanegol gyda materion ymarfer” Gweithiwr Cymdeithasol

Mae'r tîm yn prosesu amrywiaeth o ymholiadau o geisiadau am wybodaeth a gwasanaethau i bryderon ynghylch lles neu ddiogelwch person ifanc rhwng 0-18 oed, gan gynnwys plant heb eu geni.  

Fel arfer bydd y Tîm Dyletswydd ac Asesu ond yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar sail tymor byr hyd at 12 wythnos (uchafswm) ar ôl yr atgyfeiriad cychwynnol. 

Mae achosion yn trosglwyddo o'r Tîm Dyletswydd ac Asesu i dimau eraill, fel arfer ar ddiwedd asesiad neu mewn cynhadledd neu adolygiad os oes angen cymorth tymor hirach arnynt gan weithiwr cymdeithasol.