Ansawdd dŵr
Perchnogion sy'n gyfrifol am gynnal y cyflenwad dŵr yn eu heiddo.
Dylid rhoi gwybod i Ddŵr Cymru ar 0800 052 0130 neu drwy wefan Dŵr Cymru am ddŵr prif gyflenwad sydd wedi'i afliwio neu ddifwyno.
Cyflenwadau dŵr preifat
Gall cyflenwadau dŵr preifat fygwth iechyd oni bai eu bod yn cael eu hamddiffyn a'u trin, oherwydd yn wahanol i gyflenwadau cyhoeddus, yn aml, nid yw cyflenwadau dŵr preifat yn cael eu trin.
Mae'r cyngor yn monitro ansawdd yr holl gyflenwadau dŵr preifat y mae'n gwybod amdanynt.
Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd i gofrestru cyflenwad dŵr preifat
Gall defnyddwyr cyflenwadau dŵr preifat ofyn i Ddŵr Cymru am y posibilrwydd o gysylltu â'r cyflenwad cyhoeddus.
Plwm
Os bydd y cyflenwad dŵr yn mynd trwy danc neu beipiau plwm, mae'n debygol y bydd plwm wedi'i hydoddi yn y dŵr a gall fod angen gosod tanc neu beipiau newydd.
Gall plwm fod yn niweidiol i blant ifanc iawn.
Cysylltu
Cysylltwch ag amddiffyn yr amgylchedd yng Nghyngor Dinas Casnewydd