ECO-Sêr
Cynllun cydnabod fflydoedd gwirfoddol yw ECO-Sêr sy’n annog ac yn cefnogi gweithredwyr HGVs, faniau a bysus i redeg eu fflydoedd yn fwy effeithlon a gwella safon aer lleol.
Mae’r cynllun yn wirfoddol ac yn hollol am ddim.
Bydd lleihau defnydd tanwyddau yn arbed arian ac yn helpu i leihau allyriadau sy’n niweidiol i iechyd a’r amgylchedd.
Bydd eich fflyd yn cael ei sgorio (yn weithredol ac yn amgylcheddol) o 1-5 gan arbenigwyr diwydiannol fydd yn rhoi cyngor ar sut i wella effeithlonrwydd y fflyd.
Sut i ymuno
Mae’r cynllun ECO-Sêr ar agor i’r cyhoedd neu unrhyw fusnes sector preifat sy’n gweithredu cerbyd(au) masnachol (faniau, HGVs, LGVs, bysus a bysus moethus).
E-bost ecostars@trl.co.uk, ffoniwch 01344 770700 neu ewch iwefan ECO-Sêri gael rhagor o fanylion.
Cafodd y cynllun ECO-Sêr ei sefydlu gan grŵp o awdurdodau lleol yn Ne Swydd Efrog yn 2009 sydd bellach wedi tyfu i 25 o gynghorau ledled y DU.
Cyngor Dinas Casnewydd oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i ymuno â’r cynllun yn 2018.
Mae Transport Research Laboratory (TRL) yn cyflawni’r cynllun.
Cyswllt
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, e-bostiwch air.quality@newport.gov.uk
TRA113697 7/1/2020