Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer
Pan eir yn groes i safonau ansawdd aer mae’n rhaid datgan bod ardal yn ardal rheoli ansawdd aer.
Mae’r gwaith o fonitro ansawdd aer wedi nodi bod nifer o ardaloedd wedi mynd y tu hwnt i’r safonau ansawdd aer ar gyfer nitrogen deuocsid.
Bydd nifer o newidiadau i Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer yn dod i rym o 1 Gorffennaf 2018 ac felly bydd gan Gasnewydd 11 o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer:
- Caerllion (Ardal Rheoli Ansawdd Aer wedi’i diwygio)
- Malpas Road (de) (Ardal Rheoli Ansawdd Aer wedi’i diwygio)
- Chepstow Road / Clarence Place / Caerleon Road (Ardal Rheoli Ansawdd Aer wedi’u diwygio a'u cyfuno)
- Cefn Road (Ardal Rheoli Ansawdd Aer newydd)
- Caerphilly Road (Ardal Rheoli Ansawdd Aer newydd)
- George Street (Ardal Rheoli Ansawdd Aer newydd)
Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar hyd yr M4:
- Royal Oak Hill (dim newid)
- Glasllwch (dim newid)
- St Julians (dim newid)
- High Cross (Ardal Rheoli Ansawdd Aer newydd)
- Shaftesbury (dim newid)
Mae datganiad Malpas Road (gogledd) wedi’i dynnu'n ôl gan fod data monitro wedi dangos nad yw'r ardal hon wedi mynd y tu hwnt i'r safonau ers sawl blwyddyn.
Gweld map o leoliadau Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer yng Nghasnewydd
Cysylltu
Anfonwch e-bost i air.quality@newport.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
TRA95710 07/01/2019