Sut rydym ni'n delio â chwynion am sŵn

Yn y lle cyntaf, bydd cwynion am sŵn o gartrefi a gerddi domestig yn cael eu cyfeirio at wardeniaid diogelwch cymunedol Cyngor Dinas Casnewydd, a fydd yn siarad â'r bobl sy'n gwneud y sŵn ac yn gofyn iddynt roi'r gorau iddi.

Os na fydd hyn yn helpu, bydd y broblem yn cael ei throsglwyddo i dîm iechyd yr amgylchedd y cyngor.

Y tîm iechyd yr amgylchedd sy'n delio â chwynion am sŵn o bob safle arall.

Er y gallwch chi wneud cwyn yn ddienw i'r wardeniaid diogelwch cymunedol, mae'n rhaid i'r tîm iechyd yr amgylchedd gael eich enw a'ch cyfeiriad i'ch helpu chi.

Rôl y tîm iechyd yr amgylchedd yw asesu p'un a all y sŵn gael ei ystyried yn niwsans statudol.

Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn diffinio niwsans statudol fel rhywbeth sy'n 'niweidiol i iechyd neu'n niwsans', h.y. sŵn y byddai unigolyn cyffredin yn ei ystyried yn niwsans, yn hytrach na sŵn ar lefel benodol.

Efallai na fydd sŵn sy'n annifyr i rai pobl yn niwsans statudol.

Mae gan y cyngor ddyletswydd i ddelio â niwsans statudol a bydd swyddog yn gwneud asesiad ar sail y canlynol:

  • pryd mae'r sŵn yn digwydd
  • pa mor aml mae'n digwydd
  • pa mor hir mae'n para
  • lefel neu ddwyster y sŵn
  • lleoliad a nodweddion yr ardal

Os ydym o'r farn bod niwsans statudol yn bodoli, byddwn yn cyflwyno hysbysiad atal ac os bydd hwn yn cael ei dorri, gallai hynny arwain at achos llys.

Tystiolaeth

Mae'n bosibl y gofynnir i chi gofnodi pryd mae'r sŵn yn digwydd trwy ddefnyddio taflenni dyddiadur sŵn fel bod swyddogion y cyngor yn gallu asesu p'un a oes niwsans sŵn statudol.

Efallai y byddwch am wylio’r fideo cerdded drwyddo cyn lawrlwytho’r Noise App am ddim os oes gennych ffôn clyfar neu lechen.

Ei ddefnyddio i gyflwyno tystiolaeth am niwsans sŵn honedig neu unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol digroeso unwaith y bydd wedi cael ei adrodd i’r cyngor.

Lawrlwythwch gwestiynau cyffredin am ddefnyddio'r ap sŵn (pdf)

Ar ôl i chi greu cyfrif, gallwch recordio'r sŵn am 30 eiliad, llenwi ffurflen a chyflwyno adroddiad ar-lein.

Er na fydd defnyddio'r ap yn disodli ymweliadau monitro sŵn gan swyddogion y cyngor, fe allai ei gwneud hi'n haws i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi unrhyw honiadau.

Mae angen i dystiolaeth fod yn wir, hyd eithaf eich gwybodaeth a'ch cred.

Os byddwch yn datgan unrhyw beth yn eich tystiolaeth sy'n ffug yn fwriadol, gallech gael eich erlyn.

Os bydd y cyngor yn erlyn ar sail eich tystiolaeth chi, disgwylir i chi roi datganiad; hebddo, mae'n bosibl na fyddwn yn gallu mynd â'r mater ymhellach.

Rhoi gwybod am niwsans sŵn