Gwastraff Gardd
Rydym yn casglu cynnwys eich bin olwynion â chaead oren ar gyfer eich gwastraff gardd bob tair wythnos, rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd.
Bydd casgliadau gwastraff gardd bob tair wythnos ar gyfer aelwydydd cam un yn dechrau o ddydd Llun 19 Mehefin. Ar gyfer pob aelwyd arall, bydd yn dechrau o Chwefror 2024.
Os gwelwch yn dda:
- glaswellt, dail a'r rhan fwyaf o chwyn
- planhigion a blodau
- ffrwythau’r ardd
- tociadau llwyni a thoriadau gwrychoedd
- canghennau a brigau bach
- deunydd gwely cwningod, moch cwta, anifeiliaid llysieuol bach, cyn belled â'i fod yn lân ac yn rhydd o ysgarthion anifeiliaid (hynny yw, 'baw anifeiliaid')
Dim diolch:
- Pridd, tyweirch, boncyffion, cerrig neu rwbel
- Chwyn ymledol, fel clymog Japan neu lysiau'r gingroen
- Ysgarthion anifeiliaid (hynny yw, 'baw anifeiliaid')
- Unrhyw ddodrefn gardd, boed yn blastig neu'n bren, fel cadeiriau gardd
- Unrhyw eitemau plastig caled, fel potiau neu hambyrddau
- Unrhyw eitemau plastig meddal, fel bagiau compost neu uwchbridd
- Teiars
- Polystyren
- Cardfwrdd
- Gwastraff DIY
Os yw'ch bin yn cynnwys eitemau na ddylai fod yno, ni fyddwn yn casglu ei gynnwys. Yn lle hynny, byddwn yn gosod tag arno. Edrychwch ar y tag a dilynwch y cyfarwyddiadau.
Beth sy’n digwydd i’ch gwastraff gardd?
Caiff eich gwastraff gardd ei droi'n gompost yn ein cyfleuster mewnol ar Ffordd y Dociau, ac yna caiff ei ddefnyddio'n bennaf mewn parciau a gerddi cyhoeddus, ac fel cyflyrydd pridd mewn gerddi cartref.