Cymorth codi bin
Gall trigolion sy’n llai abl ac yn byw ar eu pen eu hunain wneud cais am help i symud eu biniau ag olwynion er mwyn eu casglu.
Os ydych chi’n byw gyda rhywun sy’n gallu symud y bin, nid oes hawl gennych gael cymorth i’w godi.
Pan fyddwch yn gwneud cais:
- rhowch y rheswm dros eich cais, gyda chymaint o fanylion â phosibl
- rhowch fanylion unrhyw un arall sy’n byw yn yr un cartref
- rhowch resymau pam na all y bobl eraill sy’n byw yn y cartref symud y bin
Byddwch yn cael llythyr o fewn ychydig wythnosau yn rhoi gwybod p’un a ydych chi’n gymwys i gael helpu i symud eich biniau.
Cadwch y bin gerllaw blaen yr eiddo, neu lle mae’r tîm gwastraff yn gallu’i weld, er mwyn gwacáu a dychwelyd y bin.
Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd i gael rhagor o wybodaeth.