Cadi bwyd
Mae Wastesavers, sef partneriaid ailgylchu Cyngor Dinas Casnewydd, yn rhoi cadi bach ar gyfer y gegin, cadi bwyd mwy o faint a leinwyr neu fagiau bwyd gwastraff yn rhad ac am ddim i gartrefi.
Mae gwastraff bwyd yn cael ei gasglu o'r cadi bwyd mwy ar yr un pryd ag y mae'r blychau ailgylchu glas a gwyrdd yn cael eu gwacáu.
Defnyddiwch eich cadi bwyd ar gyfer:
- Esgyrn
- Grawnfwyd
- Gwaddodion coffi
- Bwyd wedi'i goginio a heb ei goginio
- Cynnyrch llaeth
- Plisg wy
- Pysgod
- Ffrwythau
- Gweddillion
- Cig
- Pasta
- Bwyd anifeiliaid anwes
- Reis
- Bagiau te
- Pilion llysiau
- Blodau
Peidiwch â'i ddefnyddio ar gyfer:
- Ffoil, gwydr, metel, plastig, polystyren a deunyddiau gwastraff eraill