Os oes gennych eitemau a allai gael eu hailddefnyddio gan rywun arall, ewch â nhw i'r Siop Ailddefnyddio ar y safle.
Nid yw pecynnau bwyd anifeiliaid anwes bellach yn cael ei gasglu yn y CAGC.
Mae noddwr y cynllun wedi gwneud trefniadau amgen i gasglu ac ailgylchu'r deunyddiau mewn siopau adwerthu dynodedig yn unig.
Darganfyddwch ble y gallwch chi ailgylchu deunydd pacio bwyd anifeiliaid anwes yng Nghasnewydd.
A-Y Ailgylchu
Batris – pob math o fatris bychain y cartref, rhowch nhw yn y cynhwysydd ger ardal ailgylchu WEEE
Beics – Rhowch nhw i’r Siop Ailddefnyddio os ydynt mewn cyflwr da, neu mewn cynhwysydd metel sgrap fel arall
Llyfrau, CDs a DVDs – rhowcheitemau gwreiddiol y mae’n addas eu hailddefnyddio yn y banc llyfrau a chyfryngau
Bric a brac – yn cynnwys addurniadau, cysgod lamp, crochenwaith, cyllyll a ffyrc, drychau â ffrâm, printiadau, lluniau, teganau a gemau – rhowch i’r Siop Tip
Caniau – tuniau bwyd, caniau bwyd, caniau erosol. Gallwch ailgylchu’r rhain yn wythnosol gartref yn eich bag coch
Batris ceir – Rhowch nhw i staff y safle i’w storio, byddwch yn ofalus wrth eu trin
Bwrdd plaster – derbynnir deunyddiau plaster a gypswm yn y rhannau gwastraff gwaith y cartref yn unig a’r gwaith ategol, styds, teils a.y.b. wedi ei dynnu
Caniau – tuniau bwyd, caniau bwyd, caniau erosol. Gallwch ailgylchu’r rhain yn wythnosol gartref yn eich bag coch
Cardfwrdd – gwastadwch y cardfwrdd a tynnu unrhyw blastig a pholisteirin Caiff cardfwrdd ei gasglu hefyd o’r cartref yn wythnosol yn y blwch gwyrdd
Cartonau – (pecynnau Tetra) ewch â nhw i’r banc cardfwrdd bwyd a diod, gallwch hefyd eu hailgylchu yn wythnosol gartref yn y blwch gwyrdd. Golchwch a’u gwastadu
Cerrig a phridd – brics, concrit, teils, cerameg, cerrig pridd – un llwyth cist car neu drelar bychan yn unig bob tro o fewn cyfyngiadau gwastraff gwaith y cartref
Coed, pren – pren o safon neu ddodrefn o bren ond heb ddefnydd na gwydr yn sownd ato. Holwch staff y safle os oes amheuaeth
Defnydd – dillad, dillad gwely, blancedi, gorchuddion gwely, llieiniau, gwregysau, bagiau, esgidiau mewn pâr. Rhowch eitemau mewn bagiau ac yn y cynhwysydd ailgylchu defnydd. Nid oed modd ailgylchu dwfes, sachau cysgu na gobennydd; beth am roi’r rheiny i gartrefi elusen anifeiliaid lleol i’w defnyddio fel gwely anifeiliaid?
Dillad – a dillad gwely, blancedi, gorchuddion gwely, tyweli, gwregysau, bagiau, esgidiau mewn pâr. Rhowch eitemau mewn bagiau ac yn y cynhwysydd ailgylchu defnydd. Nid oed modd mynd â dwfes, sachau cysgu na gobennydd, rhowch y rheiny i gartrefi elusen anifeiliaid lleol i’w defnyddio fel gwely anifeiliaid
Dodrefn – rhowch eitemau mewn cyflwr da i’r Siop Tip
Ffoil – golchwch, plygwch a’i roi gyda’r caniau metel. Peidiwch â rhoi ffoil â phlastig neu bapur ar ei gefn yn y bin hwn, fel pacedi creision – bydd ffoil alwminiwm y gallwch ei ailgylchu yn crebachu wrth i chi ei blygu. Gallwch ailgylchu hwn hefyd o’ch cartref yn eich bag coch
Gwastraff gardd – deunydd planhigion o laswellt wedi’i dorri i ddarnau o lwyni a changhennau coed. Ni chewch roi pridd, bagiau plastig, potiau gardd na llysiau’r dial yn y sgipiau gwastraff gardd
Gwydr (gwydr math haenen ffenestr) – holwch staff y safle i’w rhoi’n ddiogel mewn cynhwysydd ailgylchu
Metel sgrap – dylid rhoi eitemau â chynnwys metel rhesymol yn y sgipiau metel sgrap
Oergelloedd a rhewgelloedd – gweler Trydanol
Olew coginio – rhowch boteli wedi eu selio yn y cynwysyddion penodol.
Olew injan – arllwyswch olew injan i’r tanc ailgylchu olew gwastraff
Pacedi creision - ailgylchwch bob brand o bacedi creision yn y pwynt casglu a ddarperir mewn partneriaeth â Terracycle. Nid ydym yn derbyn bagiau popgorn, tiwbiau creision, bagiau pretsels na bagiau byrbrydau cig
Paent – os gellir ei ail-ddefnyddio, ystyriwch ei gynnig ar Freecycle neu cadwch yn ddiogel ac wedi selio er mwyn ei ddefnyddio yn eich cartref
Os nad yw’r paent yn addas ei ddefnyddio bellach, mae’n bosibl y gallwn ei dderbyn i’w ailgylchu gan gwmnïau arbenigol; holwch staff y safle
Gellir rhoi tuniau paent metel gweigion mewn sgip metel sgrap
Papur – gellir ailgylchu papurau newydd, cylchgronau, catalogau, cyfeirlyfrau ffôn, llythyrau, amlenni, cardiau cyfarch yn eich blwch glas gartref hefyd
Pethau trydanol – gellir ailgylchu eitemau trydan y cartref sy’n defnyddio plwg neu fatri, rhai mawr neu fach, yn yr ardal ailgylchu WEEE. Mae mannau arbennig ar gyfer eitemau trydanol y cartref yn cynnwys oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau golchi a sychu, poptai, teledai a sgriniau cyfrifiadur. Gallwch ailgylchu eitemau trydanol bychain bob wythnos gartref yn eich blwch glas
Tynnwch yr holl fwyd a phecynnau dros ben o oergelloedd a rhewgelloedd cyn dod â'r rhain i'r CAGC.
Plastigau – dylid rhoi poteli, potiau, tybiau, byrddau plastig yn y cynwysyddion ailgylchu ac mae modd hefyd eu hailgylchu yn eich bag coch gartref. Gellir ailgylchu bagiau plastig a haenau polythen mewn biniau ailgylchu bagiau plastig mewn nifer o archfarchnadoedd. Dylid rhoi eitemau plastig mawr megis powlenni golchi, cratiau, blychau, dodrefn patio, tybiau plastig yr ardd a.y.b yn y man penodol ar wahân
Poteli nwy – poteli untro defnydd cartref gweigion yn unig, holwch staff y safle
Poteli a jariau gwydr – Golchwch nhw a’u rhoi mewn banciau gwydr neu ailgylchwch nhw yn wythnosol o’ch cartref yn y blwch gwyrdd
Teledai a sgriniau cyfrifiadur – rhowch y rhain yn y cynhwysydd sgip penodol yn yr ardal ailgylchu WEEE
Teiars – Uchafswm o ddau deiar car yn unig, holwch staff y safle
Tiwbiau fflworolau, bylbiau golau ynni isel – cadwch y rhain ar wahân a heb eu torri a rhowch nhw’n ofalus yn y cynhwysydd ailgylchu lampau yn yr ardal ailgylchu WEEE
Gwastraff peryglus - asbestos
Mae’n bosibl gadael symiau bychain o asbestos wedi ei rwymo mewn sment yn y safle yn unol â rheolau’r safle a ‘gweithdrefn derbyn asbestos’, Cysylltu â Chyngor Casnewydd am gyngor.
Dim ond yn ystod oriau gweithredu’r bont bwyso yn unig. Mae’n rhaid i breswylwyr roi gwybod i swyddfa’r bont bwyso a chyflwyno datganiad treth gyngor neu fil y cartref i brofi eu cyfeiriad.
TRA96006 14/01/2019