Rheolau Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC)

Bydd y ganolfan ailgylchu ond yn derbyn y math o wastraff a faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu fel arfer gan y cartref.

Nid yw gwastraff a ddaw o weithgarwch busnes, masnachol neu grefftwyr yn cael ei dderbyn yn y ganolfan ailgylchu

Dylai lefelau uchel o wastraff neu fathau annerbyniol o wastraff o'r cartref, neu unrhyw wastraff masnachol, gael ei waredu trwy ddulliau eraill e.e. cwmnïau rheoli gwastraff, llogi sgipiau preifat.

Gall aelwyd waredu pedair sach o sbwriel ar y mwyaf yn sgipiau'r safle tirlenwi

Gall preswylwyr ailgylchu amrywiaeth eang o ddeunyddiau trwy gasgliad wythnosol Wastesavers o ochr y ffordd, yn y ganolfan ailgylchu ac mewn safleoedd dod â gwastraff, felly, ni ddylai fod angen iddynt ddod â nifer fawr o sachau sy'n cynnwys sbwriel arferol y cartref i safleoedd tirlenwi.

Dylai deunyddiau gael eu dosbarthu ymlaen llaw a'u rhoi yn y blwch ailgylchu cywir

Mae hyn yn osgoi anfon gwastraff peryglus neu wastraff a allai gael ei ailgylchu i safle tirlenwi ac yn sicrhau bod cymaint â phosibl o ddeunyddiau'n cael eu hailgylchu. Gofynnwch i staff y safle am arweiniad.

Ni chaniateir i faniau ddefnyddio'r Ganolfan Ailgylchu

Caniateir trelars car hyd at 1.2m x 1.2m, ond nid trelars masnachol/mwy o faint sy'n cael eu defnyddio gan fasnachwyr at ddefnydd masnachol.

Mae trelars car yn cael eu cyfyngu yn ôl maint oherwydd bod hyn yn cadw lefelau derbyniol o wastraff o fewn y rheol 4 sach sbwriel.

Ni ddylai sachau na bagiau plastig gael eu rhoi yn y blychau ailgylchu na chompostio.

Gwastraff gwaith ar y tŷ, gan gynnwys craidd caled a rwbel

Gall perchnogion tai ddod â lefel resymol o'r gwastraff hwn o waith ar raddfa fach ar y tŷ.

Nid yw lefelau mawr o wastraff adeiladu o adnewyddu tŷ ac ati yn cael ei ystyried yn wastraff cartref a byddai'n ddoeth defnyddio dull gwaredu arall e.e. llogi sgip yn breifat.

Peidiwch â sefyll ar reiliau na thu hwnt iddynt i ymestyn i sgipiau

Mae rheiliau'n helpu i gadw defnyddwyr y safle'n ddiogel. Ni chewch dynnu pethau allan o sgipiau.

Gall fod angen tystiolaeth eich bod yn byw yng Nghasnewydd

Gallai staff y Ganolfan Ailgylchu ofyn cwestiynau i drigolion os byddant yn dod â gwastraff peryglus neu lawer iawn o wastraff i'r safle, neu os byddant yn ymweld yn aml.

Dim mynediad o fewn 15 munud cyn yr amser cau

Mae hyn yn rhoi digon o amser i drigolion sydd eisoes yn defnyddio'r cyfleuster ddadlwytho ac i staff y safle orffen glanhau a diogelu'r safle.

Rhaid i berchnogion tai ofyn am gyngor gan y Cyngor cyn dod ag unrhyw wastraff a allai gael ei ystyried yn wastraff peryglus i'r ganolfan ailgylchu

Mae rhai deunyddiau'n cael eu hystyried yn beryglus ac mae angen eu trafod a'u storio'n arbennig. Rhaid dod ag eitemau o'r fath i'r safle yn ddiogel a'u gadael yn unol â chyfarwyddyd staff y safle.

Ni fydd ymosodiadau corfforol na geiriol ar staff yn cael eu goddef

Bydd staff y safle'n cymhwyso'r rheolau hyn i sicrhau amgylchedd diogel ar gyfer holl ddefnyddwyr y safle.

Mae system teledu cylch cyfyng ar waith drwy'r amser a bydd yr heddlu'n cael gwybod am unrhyw un sy'n ymosod ar y staff.