Gorchmynion Diogelu Coed

Beth yw gorchymyn diogelu coed (TPO)?

Mae gorchymyn diogelu coed yn cael ei gyflwyno os bydd y cyngor yn penderfynu bod gwerth esthetig uchel gan goeden.

Mae TPO yn golygu bod angen cydsyniad neu ganiatâd ffurfiol cyn i unrhyw waith gael ei wneud ar y goeden.

Ni ddylai coed sy'n destun gorchmynion diogelu coed fyth gael eu tocio na'u torri heb gael caniatâd gan y cyngor.

Os bydd coeden yn destun gorchymyn diogelu coed NEU mae mewn ardal gadwraeth NEU mae amodau sy'n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio yn perthyn iddi ac rydych chi'n dymuno gwneud gwaith, rhaid i chi wneud cais am ganiatâd neu gydsyniad i ddechrau.

Pa goed sy'n destun TPO?

Cysylltwch â'r cyngor isod i gael gwybod a yw coeden yn cael ei gwarchod gan TPO.

Gallwch wneud cais am gopi o Orchymyn Diogelu Coed am £20, sy'n talu ffioedd yr Arolwg Ordnans. 

Gwneud ymholiad coeden

Rhoi gwybod am waith anawdurdodedig

Os byddwch yn gweld gwaith yn cael ei wneud ar goeden ac rydych chi'n amau bod gorchymyn diogelu coed yn berthnasol iddi cysylltwch â'r tîm gwasanaethau gwyrdd yng Nghyngor Dinas Casnewydd a byddwn yn cadarnhau. 

Coed ar safleoedd datblygu - beth rydym ni'n ei ddisgwyl

Darllenwch Coed, coetiroedd, gwrychoedd a safleoedd datblygu - Canllawiau Cynllunio Atodol (pdf)

Gwnewch gais ar-lein am ganiatâd ar gyfer gwaith coed

Bydd angen i chi gofrestru gyda'r Porth Cynllunio ac yna gallwch lenwi'ch ffurflen gais, lanlwytho unrhyw ddogfennau ategol a thalu ffioedd ar-lein.

Mae cofrestru a gwneud cais ar-lein yn caniatáu i chi weithio ar ddrafft o'ch cais cyn ei gyflwyno ac mae'n rhoi'r canlynol i chi:

  • anfon a chydnabod ar unwaith

  • arbedion ar gostau postio ac argraffu

  • cofnod ar-lein o'ch ceisiadau gorffenedig

Os byddai'n well gennych, gallwch lawrlwytho copi o'r ffurflen gais.

Gwneud cais am Orchymyn Diogelu Coed

Os ydych chi o'r farn bod coeden a ddylai gael ei diogelu gan orchymyn diogelu coed, cysylltwch â ni i roi'r manylion canlynol:

  • manylion am leoliad y goeden, gyda chynllun yn dangos y lleoliad

  • y math o goeden

  • pam y dylai'r goeden gael ei diogelu, yn eich barn chi

Yna, bydd swyddog o'r cyngor yn asesu'r goeden ac yn gwneud penderfyniad. 

Ni chodir tâl am gais am Orchymyn Diogelu Coed a gall gymryd hyd at chwe wythnos i'w brosesu.

Cysylltu

Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm gwasanaethau gwyrdd