Ceisiadau cynllunio a choed

Coed y mae ceisiadau cynllunio'n effeithio arnynt

Mae'n rhaid i geisiadau cynllunio ddarparu gwybodaeth am goed sydd eisoes yn bodoli a nodweddion eraill y dirwedd.

Mae'n rhaid i'r cais gynnwys manylion pa goed a gedwir ar safle a pha rai fydd yn cael eu torri.

Lle y bydd coed o werth ar safle, bydd arolwg safle fel arfer yn cynnwys asesiad o'r coed ac yn rhoi gwybodaeth am iechyd a gwerth esthetig pob coeden, a'i haddasrwydd yng nghyd-destun datblygiad arfaethedig y safle.

Dylai pob arolwg o goed gael ei gynnal yn unol â Safon Brydeinig 5837:2012.

Ystlumod

Gall coed fod yn gartref i safleoedd clwydo ystlumod.

Mae ystlumod yn rhywogaeth warchodedig a gallai fod angen cynnal arolwg ystlumod cyn gwneud unrhyw waith i'r goeden.

Sylwch…

Mae'n drosedd i ddifrodi neu ddinistrio'n fwriadol neu'n ddi-hid, neu atal mynediad i unrhyw strwythur neu le sy'n cael ei ddefnyddio gan rywogaeth warchodedig ar gyfer lloches neu amddiffyniad NEU amharu ar rywogaeth warchodedig tra bydd yn meddiannu strwythur/coeden o'r fath.

Os oes unrhyw amheuaeth am unrhyw waith arfaethedig, dylid ceisio cyngor cyn i'r gwaith ddechrau.